Ôl-adain felen hardd

Anarta myrtilli
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Anarta
Rhywogaeth: A. myrtilli
Enw deuenwol
Anarta myrtilli
Linnaeus, 1761
Cyfystyron
  • Phalaena myrtilli
  • Phalaena ericae
  • Anarta rufescens

Gwyfyn bychan sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw ôl-adain felen hardd, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy ôl-adenydd melyn hardd; yr enw Saesneg yw Beautiful Yellow Underwing, a'r enw gwyddonol yw Anarta myrtilli.[1] Mae i'w ganfod yn y rhan fwyaf o Ewrop.

Siani flewog
Darlun alln o lyfr John Curtis: British Entomology Volume 5

Dim ond 20–22 mm ydy lled ei adenydd - ar eu heithaf. Mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan rhwng Mai ac Awst, yn ddibynol ar ei leoliad. Mae'n bosob fod dwy cenhedlaeth.

Bwyd golygu

Prif fwyd y siani flewog ydy Calluna vulgaris a Erica tetralix.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r ôl-adain felen hardd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.