101 Dalmatians (ffilm 1996)

Ffilm Disney gydag actorion dynol a chŵn yw Disney's 101 Dalmatians (1996). Mae'r ffilm yn seiliedig ar y ffilm animeiddiedig One Hundred and One Dalmatians a oedd yn seiliedig ar nofel Dodie Smith The Hundred and One Dalmatians. Mae'r ffilm yn serennu Glenn Close fel y Cruella de Vil creulon, a Jeff Daniels fel Roger, perchennog y 101 o gŵn dalmatian. Chwaraeir rhan Pongo, Perdita a'r 99 ci bach gan actorion dalmatian go iawn yn y fersiwn hwn, yn wahanol i fersiwn animeiddiedig 1962. Rhyddhawyd 102 Dalmatians fel dilyniant i'r ffilm.

Disney's 101 Dalmations

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Stephen Herek
Cynhyrchydd John Hughes
Ysgrifennwr John Hughes
Serennu Glenn Close
Jeff Daniels
Joely Richardson
Joan Plowright
Hugh Laurie
Cerddoriaeth Michael Kamen
Sinematograffeg Adrian Biddle
Golygydd Larry Bock
Trudy Ship
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Buena Vista Pictures
Dyddiad rhyddhau 18 Tachwedd 1996
Amser rhedeg 103 munud
Gwlad Unol Daleithiau America
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Plot

Mae Roger Dearly (Jeff Daniels) yn gynlluniwr gemau cyfrifiadurol Americanaidd sy'n rhannu ei gartref yn Llundain gyda'i anifail anwes, dalmatian o'r enw Pongo. Un diwrnod wrth gerdded Pongo, mae Pongo yn gweld cast dalmatian o'r enw Perdy. Ar ôl ei chwrso'n ddiddiwedd ar hyd strydoedd Llundain, mae Roger a Pongo yn darganfod fod Perdy yn hoffi Pongo; ac mae perchennog Perdy, y cynllunydd ffasiwn Anita Campbell-Green (Joely Richardson) yn hoffi Roger pan maent yn cyfarfod ym Mharc St. James. Datblyga berthynas yr oedolion a'r cŵn ac mae Roger ac Anita'n priodi. Mae Anita'n gweithio i Cruella de Vil (Glenn Close), gwraig rywiol sy'n dwlu ar sigarennau a ffwr.

Caiff Anita ei hysbrydoli gan ei chŵn ac mae'n creu cot ffwr gyda ffwr smotiog. Arweinia hyn at Cruella'n penderfynu ei bod hi eisiau creu dillad allan o ffwr Dalmatians go iawn. Pan glywa Cruella fod Perdy wedi rhoi genedigaeth i bymtheg o Dalmatians bychain, cynigia bris teilwng i Anita a Roger am y cŵn bach newydd-anedig, ond gwrthoda'r cwpl y cynnig. Aiff Cruella'n wyllt, gan ddiswyddo Anita gan addo y bydd yn dial arni. Mae'n gofyn i'w gweision, Jasper a Horace (Hugh Laurie & Mark Williams), i ddwyn y cŵn bach a dod a hwy i'w hystâd hynafol, De Vil Manor.

Gyda chymorth cŵn ac anifeiliaid eraill ledled Llundain, llwydda'r cŵn bach i achub y blaen ar Jasper a Horace gan ddianc i fferm lle mae eu rhieni wedi'u galw i aros. Fodd bynnag, yn fuan ar ôl hyn, ymddengys Cruella i geisio'u dal; mae'n diweddu gyda mochyn yn eistedd ac yn torri gwynt yn ei hwyneb, cyn syrthio i mewn i gafn o driongl a chael ei chicio i mewn i dwlc mochyn gan geffyl. Llwydda'r holl dalmatians i gyrraedd adref gyda chymorth Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd, sy'n arestio Cruella a'i gweithwyr. Mae'r teulu'n mabwysiadu'r dalmatians eraill a ddygwyd gan Cruella, gan ddod a chyfanswm y nifer o gŵn i 101.

Lluniodd Roger gêm gyfrifiadurol lwyddiannus am dalmatians bychain, gyda'r cŵn fel yr arwyr a Cruella fel y dihiryn, ac maent yn symud i gefn gwlad Lloegr gyda'i miliynau.

Cymeriadau

Rhyddhad

Rhyddhawyd 101 Dalmatians ar fideo ar y 15fed o Ebrill, 1997 ac ar DVD ar y 12fed o Ragfyr, 2000. Yn sgìl gwerthiant uchel y fersiwn platinwm y DVD 101 Dalmations Platinum Edition DVD, ail-ryddhaodd Disney'r DVD ar yr 16eg o Fedi, 2008 yn yr Unol Daleithiau.

Derbyniad

Gwnaeth y ffilm yn dda yn y Swyddfa Docynnau, gan wneud $136,189,294 yn yr Unol Daleithiau a $184,500,000 dramor, gan ddod a chyfanswm y ffilm i $320,689,294.[1] Canmolwyd perfformiad Close yn ogystal a'i natur rywiol fel Cruella DeVil hefyd.

Cyfeiriadau

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.