Priffordd yn ne Cymru yw'r A4050. Mae tua 10 milltir o hyd, ac yn cysylltu Y Barri a Croes Cwrlwys ar gyrion de-orllewinol Caerdydd, gan fynd trwy bentref Gwenfô.

A4050
Enghraifft o'r canlynolffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Map
Hyd10 milltir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dechreua'r ffordd mewn cyffordd gyda'r priffyrdd A48 ac A4232. Wedi mynd trwy ran orllewinol y Barri, mae'n gorffen mewn cyffordd gyda'r A4055 gerllaw yr harbwr. Gyda'r A4226, mae'n gyswllt pwysig rhwng dinas Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.

Yr A4050 ger Gwenfô