Priffordd yn ne Cymru yw'r A473. Mae'n cysylltu Pontypridd a Phen-y-bont ar Ogwr.

A473
Enghraifft o'r canlynolffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ceir dechrau'r A473 yn Nhrefforest, fymryn i'r de o Bontypridd, lle mae cyffordd a'r priffyrdd A470, A4058 ac A4054. Hyd at bentref Tonteg mae'n arwain i'r de-ddwyrain, yna mae'n troi i'r de-orllewin heibio Llanilltud Faerdre, Beddau a Llantrisant. Wedi mynd drwy Lantrisant, mae'n troi i'r gorllewin drwy Lanharan yna i'r de-orllewin drwy Bencoed. Mae'n mynd drwy ganol Pen-y-bont ar Ogwr, cyn ymuno a'r A48 ychydig i'r gorllewin.