Abad

person crefyddol

Abad yw pennaeth abaty a'r gymuned o fynachod sy'n byw ynddo. Fel rheol dylai'r gymuned gynnwys o leiaf 12 o fynachod. Daw'r enw o'r gair Aramaeg abba "tad", ac mae'r abad i fod i ymddwyn fel tad ysbrydol y mynachod sydd yn ei ofal. Yn urddau'r Sistersiaid a'r Benedictiaid mae'r abad yn cael ei ethol am oes ac yn ffigwr o awdurdod mawr.

Abad
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth eglwysig Edit this on Wikidata
Mathmynach, superior, ordinari Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais abad yn yr Eglwys Gatholig

Roedd nifer o seintiau yn abadau, gan gynnwys Antoni o'r Aifft, Bernardino o Sienna a Bernard o Clairvaux.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.