Abaty yn Dumfries a Galloway yw Abaty Sweetheart (Gaeleg: An Abaid Ur), a leolir 8 milltir (13 km) i'r de o Dumfries ger aber Afon Nith yn ne-orllewin yr Alban. Abaty Sistersiaidd ydyw, a sefydlwyd yn 1275 gan Dervorguilla o Galloway, merch Alan, Arglwydd Galloway, er cof am ei ŵr John Balliol, Brenin yr Alban o 1292 i 1296. Cafodd calon berarogledig de Balliol ei chladdu mewn coffr o ifori ac arian wrth ochr Devorguilla pan fu farw honno ac ailenwyd yr abaty gan y mynachod er anrhydedd iddi.

Abaty Sweetheart
Mathmynachlog, abaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDumfries a Galloway Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau54.979393°N 3.618462°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

New Abbey oedd yr enw gwreiddiol, a chedwir yr enw hwnnw yn enw pentref bychan New Abbey, ger adfeilion yr abaty.

Mae'r safle yng ngofal Historic Scotland

Dolenni allanol golygu