Aberddawan

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentref ym Mro Morgannwg ar arfordir de Cymru yw Aberddawan (Saesneg: Aberthaw). Saif y pentref ar lan aber Afon Ddawan tua 4 milltir i'r dwyrain o Lanilltud Fawr. Fe'i ymrennir yn ddwy ran, Gorllewin a Dwyrain Aberddawan.

Aberddawan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.391°N 3.389°W Edit this on Wikidata
Cod postCF62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map

Bu'n borthladd bach prysur yn y 18g gyda nifer o longau bychain yn hwylio ryngddo â Bryste a Gwlad yr Haf, dros Fôr Hafren.

Y rheilffordd ger Pwerdy Aberddawan

Heddiw mae Aberddawan yn enwog am Bwerdy Aberddawan, un o'r mwyaf yn y De, a Gwaith Sment Aberddawan.

Tua 2 filltir i'r dwyrain ceir Maes Awyr Caerdydd, yn Y Rhws, ac i'r gogledd ceir maes awyr RAF Sain Tathan.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]

Cadwraeth golygu

Dynodwyd Arfordir Aberddawan yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyfeiriadau golygu