Abu al-Ala al-Ma'arri

Un o'r mwyaf o'r beirdd Arabeg yn yr Oesoedd Canol oedd Abu al-Ala al-Ma'arri (Arabeg: أبو العلاء أحمد بن عبد الله بن سليمان التنوخي المعري) neu al-Ma'arri (hefyd al-Maarri a ffurfiau tebyg) (26 Rhagfyr, 973 - 10 Mai neu 21 Mai, 1057). Cafodd ei eni yn nhref Ma'rrah, yn Syria (ystyr 'al-Ma'aari' yw 'Y Ma'rriad'). Ac yntau'n blentyn pedair oed dioddefodd y frech wen ac aeth yn ddall.

Abu al-Ala al-Ma'arri
Ganwydأحمد بن عبد الله بن سُليمان القضاعي التنُّوخي المعرِّي Edit this on Wikidata
973 Edit this on Wikidata
Ma'arrat Nu'man Edit this on Wikidata
Bu farw1057 Edit this on Wikidata
Ma'arrat Nu'man Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, athronydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amResalat Al-Ghufran, Saqt az-Zand, Diwan al-Lazumiyat, Q100261022, Q99547283 Edit this on Wikidata

Yn ddyn ifanc aeth al-Ma'arri ar daith astudio dwys o gwmpas dinasoedd Syria, fel Aleppo ac Antioch, gan wrando nifer o ddarlithoedd gan ysgolheigion gorau'r dydd. Dychwelodd i'w gartref ym Ma'rrah yn ugain oed a dechreuodd farddoni.

Yn 1008 aeth i ddinas Baghdad, prifddinas fawr y byd Arabaidd ac Islamaidd. Ond byr fu ei arosiad, efallai am ei fod yn ymddwyn yn ddirmygus tuag at ei noddwyr. Dychwelodd i'w dref enedigol a cheisiai fyw fel meudwy ond ni allai am fod cynifer o edmygwyr yn galw i'w weld, a dechreuodd roi darlithoedd ar hanes llenyddiaeth Arabeg a rhethreg.

Sgeptig agored yw al-Ma'arri. Nid oedd yn meddwl llawer o grefydd uniongred a dogmatiaeth a doedd ganddo ddim gair da o gwbl am offeiriaid a chlerigwyr, boed yn Fwslemiaid neu'n Gristnogion. Ond tymherer ei sgeptigaeth gan elfen foesol a dymuniad i ddarganfod y gwir mewn bywyd.

Ffynhonnell golygu

  • G. B. H. Wightman a A. Y. al-Udhari (cyf.), Birds Through a Ceiling of Alabaster[:] Three Abbasid poets (Penguin, Llundain, 1975)