Un sy'n arbenigo mewn effeithiau ariannol ansicrwydd a pheryglon yw actiwari. Mae actiwarïaid yn deall systemau diogelu ariannol yn drylwyr, gan ddefnyddio modelau mathemategol.[1]

Actiwari
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathystadegydd, insurance expert Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae actiwarïaid yn cloriannu tebygolrwydd gwahanol ddigwyddiadau, ac yn meintioli'r canlyniadau a ddaw ohonynt. Eu hamcan yw lleihau'r colledion ariannol a emosiynol a ddaw yn sgîl digwyddiadau anymunol. Er enghraifft, gan nad oes modd osgoi marwolaeth, mae'n ddefnyddiol ceisio lleihau effeithiau ariannol marwolaeth. Mae ymafael â phroblemau o'r fath yn gofyn meistrolaeth o reoli asedau, rheoli rhwymedigaethau a phrisiad. Er mwyn llunio a chynnal cynlluniau sy'n rheoli risg, mae angen sgiliau dadansoddol yn ogystal â gwybodaeth ym meysydd busnes, ymddygiad dynol, a systemau gwybodaeth.[2]

Yn 2002 a 2009, casgliad arolwg yn y Wall Street Journal oedd mai actiwariaeth oedd y swydd ail orau yn Unol Daleithiau America.[3][4] Defnyddiodd yr arolwg chwe maen prawf: awyrgylch, incwm, rhagolygon cyflogi, gofynion corfforol, sicrwydd a straen.

Cyfeiriadau golygu

  1. Trowbridge 1989, p. 7
  2. Bean1, Be An Actuary 2005
  3. Lee 2002
  4. Needleman 2009
  Eginyn erthygl sydd uchod am fusnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.