Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw Adam Rhys Jones (ganed 8 Mawrth 1981). Mae'n chwarae i'r Gweilch fel prop pen tyn, ac mae wedi cynrychioli Cymru nifer o weithiau.

Adam Rhys Jones
Ganwyd8 Mawrth 1981 Edit this on Wikidata
Aber-craf Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau124 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Castell-nedd, Y Gweilch, Rygbi Caerdydd, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Safleprop Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed ef yng Nglynebwy, a bu'n chwarae dros glwb Castell Nedd cyn trosglwyddo i’r Gwelch yn 2003. Chwaraeodd dros Gymru ar lefel dan-23.

Enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 2003, a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno. Sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf yn erbyn Awstralia yn y gystadleuaeth honno.

Roedd yn rhan allweddol o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 2005, gan chwarae ym mhob gêm, a dechreuodd ym mhedair allan o'r pum gêm pan enillwyd y Gamp Lawn eto yn 2008.

Gelwir ef a'i gyd-brop gyda'r Gweilch, Duncan Jones, yr "Hair Bears" oherwydd eu gwalltiau.