Adduned Blwyddyn Newydd

Addewid neu fwriad a wneir gan berson ar ddechrau blwyddyn newydd ydy Adduned Blwyddyn Newydd. Gan amlaf, mae'r adduned yn ymwneud â gosod nod neu darged personol i'ch hunan neu waredu rhyw arfer ddrwg o'ch bywyd. Nodwedd ganolog o adduned blwyddyn newydd sy'n ei wneud yn wahanol i addunedau neu addewidion eraill yw ei fod yn cael ei wneud cyn y Flwyddyn Newydd ac mae'n dynodi dechreuad newydd. Mae'r bobl sy'n rhoi adduned i'w hunain yn bwriadu cadw at yr adduned am y flwydddyn ganlynol. Ystyrir y newid a ddaw yn sgil yr adduned o fantais ac yn gwneud lles i'w ffordd o fyw.

Adduned Blwyddyn Newydd
Enghraifft o'r canlynoltraddodiad Edit this on Wikidata
Mathymrwymiad Edit this on Wikidata

Addunedau poblogaidd golygu

 
Cardiau post am addunedau ar ddechrau'r 20fed ganrif

Ymhlith yr addunedau mwyaf poblogaidd a wneir mae cyfrannu mwy at achosion da, i fod yn fwy blaengar neu i wneud mwy i edrych ar ôl yr amgylchedd.

Mae'r canlynol yn addunedau poblogaidd hefyd:[1][2]

  • Gwella iechyd: colli pwysau, gwneud mwy o ymarfer corff, bwyta'n iach, yfed llai o alcohol, stopio ysmygu, peidio cnoi ewinedd
  • Gwella sefyllfa ariannol; dileu dyled, cynilo mwy
  • Datblygu gyrfa: cael gwell swydd
  • Gwella addysg: cael canlyniadau gwell, dysgu rhywbeth newydd (megis iaith dramor neu gerddoriaeth), astudio'n amlach
  • Gwella hunan: i fod yn fwy trefnus, delio'n well â straen, rheoli amser, bod yn fwy annibynnol, gwylio llai o deledu, chwarae llai o gemau fideo
  • Teithio mwy
  • Gwirfoddoli i helpu eraill, rhoi i achosion da
  • Meithrin gwell perthynas gydag eraill
  • Lleihau yfed alcohol
  • Ehangu cylch ffrindiau
  • Arbrofi mwy gyda bwydydd o dramor

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-30. Cyrchwyd 2012-12-31.
  2. http://www.43things.com/resolutions/trends[dolen marw]