Cantores a chyfansoddwr Seisnig ydy Adele Laurie Blue Adkins[1] (ganwyd 5 Mai 1988), sy'n adnabyddus fel Adele. Cynigwyd cytundeb recordio i Adele gyda XL Recordings ar ôl iddynt ddod o hyd i'w phrawf-fideo a bostiwyd gan ffrind iddo ar MySpace yn 2006. Y flwyddyn nesaf, enillodd y wobr "Critics' Choice" yn y Brit Awards a'r Sound of 2008 gan y BBC. Rhyddhawyd ei halbwm gyntaf, 19, yn 2008 a chafodd hi lawer o lwyddiant beirniadol a masnachol. Ardystir yr albwm yn bedair gwaith platinwm yn y DU, a dwywaith platinwm yn y UDA.[2][3] Cafodd ei gyrfa yn yr UDA wthiad ymhellach gan iddi berfformio ar Saturday Night Live yn 2008. Yng Ngwobrau'r Grammy 2009, cafodd Adele wobrau ar gyfer Artist Gorau Newydd a Pherfformiad Lleisiol Pop Benyw Gorau.[4][5]

Adele
FfugenwAdele Edit this on Wikidata
GanwydAdele Laurie Blue Adkins Edit this on Wikidata
5 Mai 1988 Edit this on Wikidata
Tottenham Edit this on Wikidata
Label recordioXL Recordings, Columbia Records, Sony Music Entertainment Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • BRIT School for Performing Arts and Technology Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, canwr, gitarydd, pianydd, drymiwr, cerddor, artist recordio, cynhyrchydd gweithredol Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, blue-eyed soul, rhythm a blŵs, cerddoriaeth yr enaid, jazz, cerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata
PriodSimon Konecki Edit this on Wikidata
PlantAngelo Adkins Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Grammy Award for Best Pop Solo Performance, Grammy Award for Record of the Year, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Golden Globe Award for Best Original Song, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Brit Award for British Female Solo Artist, Gwobr Grammy am Berfformiad Lleisiol Pop Benywaidd Gorau, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Grammy Award for Best Pop Vocal Album, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, Grammy Award for Song of the Year, Grammy Award for Best Pop Solo Performance, Grammy Award for Best Song Written for Visual Media, Grammy Award for Best Pop Vocal Album, Grammy Award for Record of the Year, Grammy Award for Song of the Year, Grammy Award for Best Pop Solo Performance, Premios Odeón, Gwobr Time 100, Broadcast Film Critics Association Award for Best Song Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.adele.com Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Adele yn Tottenham, Llundain, i fam Seisnig, Penny Adkins, a thad Cymreig, Marc Evans.[6] Gadawodd Evans y teulu pan oedd Adele yn ddwy mlwydd oed, gan adael i'w mam ei magu.[7][8] Cychwynodd ganu yn bedair mlwydd oed a mae'n honni ei bod wedi gwirioni gyda lleisiau.[9][10] Erbyn 1997 roedd mam Adele wedi dod i hyd i waith fel gwneuthrwr dodrefn a threfnydd gweithgareddau i oedolion, a symudodd hi ac Adele i Brighton.[11]

Yn 1999 symudodd hi a'i mam nôl i Lundain; yn gyntaf i Brixton, yna i'r ardal gyfagos West Norwood yn ne Llundain, a ddaeth yn destun i'w chân gyntaf “Hometown Glory”.[12] Treuliodd lawer o amser yn ei llencyndod yn Brockwell Park lle byddai'n chwarae'r gitâr a chanu i ffrindiau, ac mae'n dweud yr hanes yn ei chân 2015 “Million Years Ago”. Mae'n datgan, “It has quite monumental moments of my life that I’ve spent there, and I drove past it [in 2015] and I just literally burst into tears. I really missed it.”[13] Graddiodd Adele o ysgol BRIT ar gyfer Celfyddydau Perfformio a Technoleg yn Mai 2006,[14] lle roedd yn gyd-ddisgybl i Leona Lewis a Jessie J.[1][15] Mae Adele yn cydnabod yr ysgol am feithrin ei thalent[16] er ar y pryd, roedd ganddi mwy o ddiddordeb mynd i fyd A&R ac yn gobeithio lansio gyrfaoedd pobl eraill.[1]

Bywyd personol golygu

Cychwynodd Adele garu gyda'r entrepreneur elusennol Simon Konecki yn Haf 2011.[17] Ym Mehefin 2012, cyhoeddodd Adele ei bod hi a Konecki yn disgwyl babi.[18][19] Ganwyd eu mab Angelo ar 19 Hydref 2012.[20]

Yn gynnar yn 2017, roedd straeon tabloid yn dyfalu bod y cwpl wedi priodi yn gyfrinachol wedi i'r ddau gael eu gweld yn gwisgo modrwyon cyfatebol.[21] Wrth dderbyn ei gwobr Grammy ar gyfer Albwm y Flwyddyn, cadarnhaodd Adele ei phriodas drwy gyfeirio at Konecki fel ei gŵr a diolch iddo.[22] Cadarnahodd hyn eto mewn cyngerdd yn Brisbane Awstralia drwy ddatgan i'r gynulleidfa "I'm married now".[23]

Yn Ebrill 2019, gwnaed datganiad i'r Associated Press gan gynrychiolydd i Adele yn dweud ei bod hi a Konecki wedi gwahanu ar ôl saith mlynedd gyda'i gilydd, ond byddent yn parhau i fagu eu mab gyda'i gilydd.[24][25] Ar 13 Medi 2019 daeth y newyddion fod Adele wedi gofyn am ysgariad o Konecki yn yr Unol Daleithiau.[26]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Frehsée, Nicole (22 Ionawr 2009), "Meet Adele, the U.K.'s Newest Soul Star", Rolling Stone. (1070):26
  2.  Certified Awards Search. British Phonographic Industry.
  3. "Gold & Platinum - 19 Chwef 2011". Archifwyd 2016-01-05 yn y Peiriant Wayback. Recording Industry Association of America (RIAA). Adalwyd 19 Mawrth 2012
  4. Brits on top: Duffy, Adele and Coldplay clinch top awards as they lead British winners at Grammys , Daily Mail, 9 Chwefror 2011. Cyrchwyd ar 12 Gorffennaf 2011.
  5. Coldplay, Robert Plant, Radiohead, Duffy and Adele win at Grammy Awards, Daily Mirror, adalwyd 21 Chwefror 2011
  6. Patterson, Sylvia (27 Ionawr 2008). "Mad about the girl". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 23 Ebrill 2010.
  7. Haines, Chris. "Adele's Welsh father Mark Evans reveals his heartache over 'letting down' six-time Grammy Awards winner – Wales News". WalesOnline. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
  8. Van, Jonathan. "Adele: One and Only – Magazine". Vogue. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-14. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
  9. "Grammy-nominated Adele taking fame in stride". The Baltimore Sun. 15 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Gorffennaf 2012.
  10. Otiji, Adaora (15 Ionawr 2009). "Singing Stronger Every Day: Adele". The Washington Post. Washington D.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ebrill 2011. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2015.
  11. Sylvia Patterson (27 Ionawr 2008). "Interview: Adele Atkins, singer". The Observer. London. Cyrchwyd 8 Mai 2011.
  12. Heawood, Sophie (28 December 2007). "Adele-ation starts here". The Times. London.
  13. "Adele Performs 'Million Years Ago' and 'Hometown Glory' on BBC Special". Billboard. Cyrchwyd 5 Mai 2019.
  14. Youngs, Ian (4 Ionawr 2008). "Soul singers top new talent list". BBC News. Cyrchwyd 1 Ionawr 2010.
  15. Collis, Clark (19 December 2008), "Spotlight on... Adele." Entertainment Weekly. (1026):62.
  16. "Interview: Adele—Singer and Songwriter—Blogcritics Music". Blogcritics.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2011. Cyrchwyd 18 Awst 2011.
  17. "Adele Is Pregnant!". Us Weekly. 29 Mehefin 2012. Cyrchwyd 21 Hydref 2012.
  18. Adele (29 Mehefin 2012). "I've got some news..." Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.[dolen marw]Nodyn:Cbignore
  19. "Adele pregnant with first child". The Belfast Telegraph. 29 Mehefin 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-13. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
  20. Letkemann, Jessica (21 Hydref 2012). "Adele Gives Birth to Baby Boy: Reports". Billboard. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2016.
  21. "Adele Sparks Marriage Rumors After Singer and Simon Konecki Step Out Wearing New Rings". Etonline.com. 3 Ionawr 2017. Cyrchwyd 5 Mawrth 2017.
  22. Holcombe, Madeline (13 Chwefror 2017). "Adele confirms she's married by thanking her 'husband' at the Grammys". CNN.com. CNN. Cyrchwyd 5 Mawrth 2017.
  23. "Adele confirms she is married to Simon Konecki". BBC Radio 1 Newsbeat. BBC. 5 Mawrth 2017. Cyrchwyd 5 Mawrth 2017.
  24. Nelson, Jeff; Merrett, Robyn (19 April 2019). "Adele and Husband Simon Konecki Split After More Than 7 Years Together". People. Cyrchwyd 20 April 2019.
  25. Fekadu, Mesfin (19 April 2019). "Rep: Adele, husband Simon Konecki have separated". Associated Press. Cyrchwyd 20 Ebrill 2019.
  26. "Adele files for divorce from husband Simon Konecki". BBC News. BBC. 13 Medi 2019. Cyrchwyd 13 Medi 2019.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
 
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: