Yr Adfywiad Gothig

arddull bensaernïol
(Ailgyfeiriad o Adfywiad Gothig)

Term am arddull mewn pensaernïaeth yn ystod y 19g a dechrau'r 20g yw'r Adyfwiad Gothig neu Neo-Gothig.

Rhai adeiladau Neo-Gothig: uwchben - Palas San Steffan, Llundain; chwith - Cathedral of Learning, Pittsburgh; de - Sint-Petrus-en-Pauluskerk, Ostend.

O'r Dadeni Dysg ymlaen ystyrrwyd pensaernïaeth Gothig yn farbaraidd (yn wir, pan fathwyd y term "Gothig" tua'r un adeg, roedd yn derm dirmygus yn cyfeirio at y Gothiaid) a daeth adeiladau yn yr arddull clasurol yn fwyfwy ffasiynol. Dim ond yn y 19g, pan ddatblygodd delwedd ramantaidd o'r Oesoedd Canol, y bu adfywiad o'r arddull, a ddechreuodd ym Mhrydain. Yn dilyn effeithiau gwaethaf y Chwyldro Diwydiannol roedd llawer o feddylwyr y cyfnod am ddychwelyd at ethos gwaith a Christnogaeth yr Oesoedd Canol, a mynegwyd hyn drwy bensaernïaeth yr oes.

Yng Nghymru, roedd gwaith John Prichard ar eglwysi yn ne-ddwyrain Cymru yn esiampl o'r arddull yma.

Parhaodd defnydd o'r arddull Gothig ar gyfer rhai eglwysi a phrifysgolion yn yr 20g.

Penseiri golygu

 
Prif fynedfa'r Hen Goleg, Aberystwyth, gan John Pollard Seddon
  Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.