Yn Hindŵaeth a'r Veda, grŵp o dduwiau'r haul sy'n feibion y dduwies Aditi a Kashyapa yw'r Aditya. Yn ogystal mae'r gair aditya yn cael ei gynnwys yn aml mewn enwau personol gwrywaidd yn India, e.e. Vikramaditya, Aditya, Suryaaditya, allan o barch i'r duwiau haul hyn.

Veda golygu

Yn y Rig Veda, ceir saith Aditya sy'n feibion Aditi ac sy'n cael eu harwain gan y duw Varuna gyda Mitra yn ail iddo:

  1. Varuna
  2. Mitra
  3. Aryaman
  4. Bhaga
  5. Daksha
  6. Ansa
  7. Sūrya (yr Haul) neu Savitr.
  8. Ravi

Yn yr Yajur Veda (Taittirīya Samhita), dywedir bod wyth Aditya.

Brahmanas golygu

Yn y Brahmanas, mae eu rhif yn tyfu i ddeuddeg, gan gyfateb i'r deuddeg mis a deuddeg arwydd y Sidydd:

  1. Ansa
  2. Aryaman
  3. Bhaga
  4. Daksha
  5. Dhatri
  6. Indra
  7. Mitra
  8. Ravi
  9. Savitar
  10. Sūrya
  11. Varuna
  12. Yama
  13. Saha

Vedanta a Purana golygu

Yn y Chāndogya-Upanishad, mae Aditya yn un o enwau Vishnu yn ei ymgnawdoliad (avatar) fel y corrach Vamana. Ei fam yw'r dduwies Aditi.

Yn y Vishnu Purana ceir rhestr arall o'r Aditya:

  1. Ansa
  2. Aryaman
  3. Bhaga
  4. Dhūti
  5. Mitra
  6. Pushan
  7. Sakra
  8. Savitar
  9. Tvastar
  10. Varuna
  11. Vishnu
  12. Vivasvat

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu