Adrienne Lecouvreur

actores

Actores Ffrengig oedd Adrienne Lecouvreur (5 Ebrill 169220 Mawrth 1730).

Adrienne Lecouvreur
Adrienne Lecouvreur, fel Cornelia yn The Death of Pompey gan Pierre Corneille
Ganwyd5 Ebrill 1692 Edit this on Wikidata
Damery Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 1730 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethperchennog salon, actor llwyfan, actor Edit this on Wikidata
SwyddSociétaire of the Comédie-Française Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Comédie-Française
  • Théâtre des Variétés-Amusantes Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Damery, Marne, a pherfformiodd ar lwyfan yn broffesiynol yn Lille. Ar ôl iddi gael ei phrofiad cyntaf o actio yn y Comédie Française ym Mharis ym 1717, daeth yn hynod boblogaidd gyda'r cyhoedd, tan ei marwolaeth annisgwyl.[1]

Cafodd berthynas gyda Maurice de Saxe, a ddaeth i ddiwedd trychinebus pan ymddengys iddi gael ei gwenwyno gan ei gelyn, Maria Karolina Sobieska, Duges Bouillon. Am fod yr Eglwys Gatholig wedi gwrthod rhoi angladd Cristnogol iddi, arweiniodd hyn at ei ffrind Voltaire i ysgrifennu cerdd yn llawn chwerder am y pwnc.

Roedd ei bywyd wedi ysbrydoli drama drasiedi gan Eugène Scribe ac Ernest Legouvé a seilir ar opera Francesco Cilea, Adriana Lecouvreur a'r operetta Adrienne (1926) gan Walter Goetze ar y ddrama hon hefyd.[2] are based. Cyn y rhain, fodd bynnag, cyflwynodd Edoardo Vera ei "dramma lirico" Adriana Lecouvreur e la duchessa di Bouillon ym 1856.[3] Ym 1913, chwaraeodd Sarah Bernhardt ran Lecouvreur yn y ffilm fud Adrienne Lecouvreur. Ym 1928, ffilmiodd MGM Studios Dream of Love, yn seiliedig ar y ddrama Scribe and Legouvé, Adrienne Lecouvreur, yn serennu Joan Crawford a Nils Asther. Mae chwe ffilm arall o leiaf wedi'u seilio ar ei bywyd.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. mwy na thebyg o wenwyno a ddefnyddiwyd yn aml iawn yn y cyfnod hwnnw. Gweler y bennod ar y "Slow Poisoners" yn Extraordinary Popular Delusions and the Madness of Crowds gan Charles Mackay (td. 565-592).
  2. Adrienne, von Goetze Archifwyd 2019-03-01 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd ar 2007-10-28. Wilfried Goebel
  3. "Gherardo Cassaglia almanac". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-04. Cyrchwyd 2010-03-20.
  4. Chwiliad IMDB am Adrienne Lecouvreur