Roedd Aemilianus (207 neu 214253) yn ymerawdwr Rhufain rhwng Gorffennaf a Hydref yn y flwyddyn 253.

Aemilianus
GanwydMarcus Aemilius Aemilianus Edit this on Wikidata
207 Edit this on Wikidata
Djerba Edit this on Wikidata
Bu farw253 Edit this on Wikidata
Spoleto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
PriodCornelia Supera Edit this on Wikidata

Ganed Aemilianus un ai yn 207 neu yn 214 yn ninas Djerba (talaith Affrica. Ychydig a wyddir am ei yrfa, ond mae'n sicr iddo fod yn gonswl cyn cael ei benodi'n rhaglaw talaith Moesia yn 252. Enw ei wraig oedd Gaia Cornelia Supera, ond ni wyddir a oedd ganddynt blant.

Llwyddiant mawr Aemilianus, a ddaeth a'r porffor ymerodrol iddo, oedd ei fuddugoliaeth tros y Gothiaid yng ngwanwyn 253. Ysbrydolodd hyn ei lengoedd i'w gyhoeddi'n ymerawdwr, a chychwynasant am Rufain i geisio diorseddu'r ymerawdwr Trebonianus Gallus. Cyn iddynt gyrraedd Rhufain, llofruddiwyd Gallus a'i fab Volusianus gan eu milwyr eu hunain, a daeth Aemilianus i mewn i'r ddinas fel ymerawdwr.

Er hynny, byr fu ei deyrnasiad, 88 diwrnod yn ôl rhai haneswyr. Roedd Gallus wedi gofyn cymorth gan lengoedd Afon Rhein, a phan glywsant hwy am farwolaeth Gallus cyhoeddasant eu cadfridog eu hunain, Valerian, yn ymerawdwr. Croesodd Valerian a'i fyddin yr Alpau yn Hydref 253, a'r tro hwn llofruddiwyd Aemilianus gan ei filwyr ei hun.

Ni wnaeth Aemilianus lawr o argraff fel ymerawdwr, Yn ôl Eutropius (fl. 4g): "Roedd Aemilianus o deulu o ddim pwysigrwydd, yr oedd ei deyrnasiad hyd yn oed yn llai pwysig ac yn y trydydd mis, lladdwyd ef."

Rhagflaenydd:
Trebonianus Gallus
Ymerawdwr Rhufain
253
Olynydd:
Valerian I