Aeronwy Thomas

cyfieithydd, bardd, ysgrifennwr (1943-2009)

Ail blentyn ac unig ferch Dylan Thomas a'i wraig Caitlin MacNamara oedd Aeronwy Bryn Thomas-Ellis (3 Mawrth 194327 Gorffennaf 2009). Sefydlwyd y mudiad celf a llenyddiaeth rhyngwladol IMMAGINE&POESIA dan ei nawdd yn 2007.

Aeronwy Thomas
Ganwyd3 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 2009 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol y Celfyddydau Mynegiannol, Tring Park Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadDylan Thomas Edit this on Wikidata
MamCaitlin MacNamara Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Thomas yn Llundain, lle trigai ei rhieni. Fe'i henwyd ar ôl Afon Aeron. Ym 1949, symudodd y teulu i'r Boathouse, Talacharn, Sir Gaerfyrddin. Hi oedd y plentyn canol allan o dri. Roedd ganddi ddau frawd Llewellyn a Colm.

Pan yn 10 oed, cofrestrodd ei mam Aeronwy Thomas yn Ysgol Addysgiadol y Celfyddydau yn Tring, Swydd Hertford. Yn dilyn marwolaeth ei thad ym 1953, symudodd hi a'i mam i Sisili, ac yn ddiweddarach i Rhufain ar ôl i'w mam ail-briodi ym 1957. Derbyniodd Thomas radd anrhydedd BA yn Saesneg a Chrefydd Cymharol o Goleg Isleworth, a diploma TEFL o Goleg Addysg i Oedolion Woking. Yn 2003 derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus wrth Brifysgol Abertawe.

 
Homage to Aeronwy Thomas, by Davide Binello, yr Eidal

Gyrfa golygu

Ar ôl iddi ddysgu Eidaleg, bu'n gweithio fel cyfieithydd barddoniaeth Eidalaidd. Roedd hi hefyd yn lysgennad dros waith ei thad, ac yn noddwr o Gymdeithas Dylan Thomas. Roedd hefyd yn Lywydd i'r Gynghrair i Gymdeithasau Llenyddol.

Bywyd personol golygu

Roedd ganddi hi a'i gŵr Trefor Ellis ddau o blant: mab, Huw, a merch, Hannah. Mae Hannah Ellis yn cynllun y dathliad canmlwyddiant Dylan Thomas.[1]

Marwolaeth golygu

Bu farw Aeronwy Thomas yn 66 oed o gancr ar y 27 Gorffennaf, 2009 yn Llundain. Bwriedir cynnal ei hangladd yn ne-orllewin Llundain ar y 6 Awst, 2009 a bydd ei lludw'n cael ei wasgaru yn y Boathouse yn Nhalacharn.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Later than Laugharne (Celtion, 1976)
  • Christmas and Other Memories (Amwy Press)
  • Poems and Memories (Pedrini, Turin)
  • Christmas in the Boathouse (2003)
  • Rooks and Poems (Poetry Monthly Press, 2004)
  • I Colori Delle Parole (Rotaract, 2007) (gyda Gianpiero Actis)
  • My Father's Places (Constable, 2009)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Wales Online 14 Ionawr 2012 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-19. Cyrchwyd 2012-01-22.
  2. Funeral of Dylan Thomas's daughter Aeronwy Ellis South Wales Evening Post. 04-08-2009. Adalwyd ar 04-08-2009