Yn ôl yr Achau Cymreig traddodiadol roedd Afallach yn un o ddisgynyddion y brenin Beli Mawr. Mae un traddodiad yn ei wneud yn dad i Mabon fab Modron.

Ceir yr enw personol Afallach yn yr enw lle Ynys Afallach. Mae hyn yn cyfateb i'r enw Lladin Insula Avallonis yn Historia Regum Britanniae (Brut Sieffre) Sieffre o Fynwy.

Mae tarddiad Avallonis Sieffre yn ansicr. Yn hytrach na bod yn enghraifft o Seisnigeiddio'r enw Cymraeg Afallach mae'n debycach ei fod yn dod o'r Insula Pomorum (Ynys y Prennau Afalau) yn y testun proffwydoliaeth Vita Merlini, eto gan Sieffre, a'i fod yn tarddu o'r gair Cymraeg "afal". Mae'r cyfeiriadau mewn chwedlau Gwyddeleg at yr ynys baradwysaidd Emain Ablach, sy'n llawn o goed afalau, yn tueddu i gadarnhau hynny.