Mae Afon Busento yn afon yn rhanbarth Calabria, yn ne'r Eidal, sy'n llifo am 95 km o'r Apenninau i aberu yng Ngwlff Taranto ym Môr Ionia. Mae'n ymuno ag Afon Crathis yng nghanol tref Cosenza.

Afon Busento
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCalabria Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.2925°N 16.259°E, 39.292461°N 16.258993°E Edit this on Wikidata
AberCrathis Edit this on Wikidata
Hyd90 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad3 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Busento yn enwog am ddigwyddiad hanesyddol yn y flwyddyn 412, pan fu farw Alaric I, brenin y Gothiaid, pan oedd Cosenza dan warchae. Yn ôl y traddodiad, fe'i claddwyd dan wely'r afon, ar ôl i'r llif gael ei throi dros dro o'i chwrs arferol er mwyn cloddio'r bedd. Does neb hyd yn hyn wedi llwyddo i ddarganfod bedd y brenin a'i drysor. Cyfansoddodd y bardd Almaeneg August Graf von Platen-Hallermünde y gerdd "Das Grab im Busento" i goffhau'r digwyddiad.

Afon Busento, golygfa o ganol Cosenza
Marwolaeth Alaric I, a gladdwyd yng ngwely Afon Busento