Mae Afon Camwy (Sbaeneg, Río Chubut) yn afon ym Mhatagonia, Ariannin. Mae'r enw Sbaeneg yn dod o'r gair Tehuelche chupat, sy'n golygu 'tryloyw', ond gan fod gair Sbaeneg chupar sy'n golygu "sugno", newidiwyd yr enw i Chubut. Mae talaith Chubut yn cael ei enw o'r afon.

Afon Camwy
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwladyr Ariannin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.6997°S 66.4833°W, 41.9804°S 71.1485°W, 43.3426°S 65.0536°W Edit this on Wikidata
AberCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Tecka, Afon Chico, Q21840184 Edit this on Wikidata
Dalgylch53,801 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd810 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad30 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Canolbarth yr Afon Camwy

O'i tarddiad yn yr Andes ger Carreras, mae'r afon yn llifo am tua 800 kilometr tua'r dwyrain gan gyrraedd y môr gerllaw Rawson. Tua 120 km i'r gorllewin o Drelew mae argae a adeiladwyd yn 1963 i greu llyn o tua 70 cilometr sgwar.

Ar lan Afon Camwy y sefydlodd y Cymry gyntaf pan ddaethant i sefydlu'r Wladfa yn 1865. Ymhlith y trefi a'r pentrefi yn Nyffryn Camwy mae Trelew, Rawson, Gaiman a Dolavon.