Yr afon hiraf yn Awstralia yw Afon Darling (Paakantyi: Baaka neu Barka), sy'n llifo am 2,739 km o ogledd De Cymru Newydd i aberu yn Afon Murray yn Wentworth, De Cymru Newydd. (Mae rhai daearyddwyr yn ystyried Afon Darling a rhan isaf Afon Murray fel un afon o 3,000 km). Yn swyddogol, mae Afon Darling yn cychwyn ger Bourke lle mae afonydd Culgoa a Barwon yn cwrdd, ar ôl llifo i lawr o'u tarddleoedd yn ne Queensland. Mae system afonydd Murray-Darling, un o'r mwyaf yn y byd, yn derbyn dŵr y cyfan o Dde Cymru Newydd i'r gorllewin o Gadwyn Great Dividing, rhan helaeth o ogledd Victoria a de Queensland a rhannau o Dde Awstralia.

Afon Darling
Mathafon Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlRalph Darling Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe Cymru Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Cyfesurynnau29.9581°S 146.3078°E, 34.1117°S 141.9078°E Edit this on Wikidata
AberAfon Murray Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Barwon, Afon Bogan, Afon Little Bogan, Afon Culgoa, Afon Warrego, Afon Paroo, Frenchmans Creek Edit this on Wikidata
Dalgylch710,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,472 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad100 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Gweler hefyd golygu

Afonydd sy'n llifo i Afon Darling

Trefi a dinasoedd ar ei glannau