Afon Gwy

afon yng Nghymru a Lloegr

Afon sy'n llifo o lethrau dwyreiniol Pumlumon i Afon Hafren (ger Cas-gwent) yw Afon Gwy (Saesneg: River Wye). Llifa trwy Gymru a Lloegr, ac mewn rhannau mae'n ffurfio'r ffîn rhwng y ddwy wlad. Gyda hyd o 215 km (135 milltir), hi yw'r ail hwyaf o'r afonydd sy'n llifo trwy Gymru, ar ôl afon Hafren, a'r bumed hwyaf ar ynys Prydain. Dalgylch yr afon yw 4136 km². Mae nifer o drefi ac atyniadau i ymwelwyr ar lan yr afon: Rhaeadr Gwy, Llanfair ym Muallt, Y Gelli Gandryll, Henffordd, Rhosan ar Wy, Symonds Yat, Trefynwy a Thyndyrn a Chas-gwent. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SGDA) ac mae'n bwysig o safbwynt cadwriaethol. Ger Afon Hafren, mae'r dyffryn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE).

Afon Gwy
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.4692°N 3.765°W Edit this on Wikidata
AberAber Hafren Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Llugwy (Powys), Afon Mynwy, Afon Troddi, Afon Ieithon Edit this on Wikidata
Dalgylch4,136 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd215 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Fideo o rai o'r llynnoedd ac afonydd Cymru, fel Afon Gwy, sy'n cael eu gwarchod a'u rheoli er mwyn diogelu'r bywyd gwyllt sy'n byw yn eu cynefin.

Tarddiad yr enw golygu

Dywed Owen a Morgan y gallai'r enw fod yn gyn-Geltaidd, ond fod y Frythoneg *guo- yn ôl pob tebyg yn darddiad iddo, a'i fod yn gytras a'r gair Cymraeg "gŵyr", yn cyfeirio at droeadau'r afon.[1]

Cwrs yr afon golygu

 
Edrych i lawr Afon Gwy o'i tharddle
 
Recordydd lefel y dŵr yn Llanfair-ym-Muallt

Ceir tarddle'r afon ar lechweddau dwyreiniol Pumlumon, cyf. OS SN802871, yn sir Powys ond yn agos iawn at y ffîn â Cheredigion. Nid yw tarddle Afon Hafren ymhell, ar lethrau gogleddol Pumlumon. Mae afon Gwy yn llifo tua'r de-ddwyrain, gydag afon Tarennig yn ymuno â hi ger Pont Rhydgaled, i gyrraedd Llangurig, lle mae'n troi tua'r de. Mae afon Marteg yn ymuno â hi cyn iddi gyrraedd tref Rhaeadr Gwy, ac ychydig islaw'r dref mae afon Elan yn ymuno â hi. Llifa ymlaen tua'r de a'r de-ddwyrain heibio Llanwrthwl a Bontnewydd ar Wy cyn i afon Ieithon ymuno â hi. Gerllaw Llanfair-ym-Muallt, mae afon Irfon yn ymuno. Ymhellach tua'r de, llifa heibio Aberedw, lle mae afon Edw yn ymuno, yna heibio Erwyd, Bochrwyd a Llys-wen. Oddi yma, mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain i lifo heibio'r Clas-ar-Wy a'r Gelli Gandryll.

 
Afon Gwy a thref Cas-gwent

O'r Gelli Gandryll ymlaen, ffurfia'r afon y ffîn rhwng Cymru a Lloegr wrth iddi lifo ymlaen tua'r gogledd, cyn iddi droi tua'r dwyrain eto i mewn i Loegr a Swydd Henffordd. Llifa heibio Bredwardine ac yna trwy ddinas Henffordd. Ychydig islaw Henffordd, mae afon Llugwy yn ymuno â hi. Oddi yno mae'n dolennu tros y gwastadeddau i gyfeiriad y de, i gyrraedd Rhosan ar Wy, ac wedi llifo heibio Symonds Yat mae'n croesi'r ffîn yn ôl i Gymru yn Sir Fynwy, lle mae afon Mynwy yn ymuno â hi gerllaw Trefynwy, ac afon Troddi yn ymuno yn fuan wedyn. Ychydig ymhellach i'r de, ger Redbrook, mae afon Gwy unwaith eto yn ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr am y 16 milltir diwethaf o'i chwrs. Llifa heibio i dref Cas-gwent a than Bont Gwy, sy'n rhan o Bont Hafren, i ymuno ag aber afon Hafren.

Hanes golygu

 
Pont dros Afon Gwy, Llanfair-ym-Muallt

Adeiladodd y Rhufeiniaid bont o goed a meini ychydig uwchlaw lle mae Cas-gwent heddiw. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniau Rhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. Yn nechrau'r 1660au, bu Syr William Sandys yn gweithio i alluogi morio hyd bwynt ychydig islaw Henffordd, a rhoddodd mesur seneddol yn 1696 yr hawl i Swydd Henffordd ddychwel melinau ac argaeau ar hyd y rhan yma o'r afon. Wedi hyn, gellid cyrraedd cyn belled a'r Gelli Gandryll o leiaf.

Yn 1808, ychwanegwyd llwybr i alluogi'r defnydd o geffylau i dynnu cychod cyn belled a Henffordd, a pharhaodd y defnydd o'r afon i gario nwyddau yn bwysig hyd y 1850au, pan ddatblgodd y rheilffyrdd.

Bywyd gwyllt golygu

Dynodwyd Afon Gwy, o'i tharddle hyd ei haber, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn ardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch.[2] Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol o eogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'r Gwangen (Alosa fallax). Yn nalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'r Dyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemau llygredd ar hyd yr afon.

Hamdden golygu

 
Afon Gwy ger Redbrook. Cymru ar y chwith, Lloegr ar y dde.

Dynodwyd rhan isaf Dyffryn Gwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1971. Mae'r ardal yma yn cynnwys 326 km sgwar, o Mordiford ger Henffordd i gyrion Cas-gwent, a 72 km (45 milltir) o gwrs yr afon ei hun. Ceir nifer o atyniadau i ymwelwyr yn yr ardal yma, megis Abaty Tyndyrn a Symonds Yat. Mae'n ardal boblogaidd ar gyfer cerdded, ac mae Llwybr Dyffryn Gwy yn dilyn rhan helaeth o gwrs yr afon am 136 milltir o Gas-gwent i'w tharddle ar lethrau Pumlumon, tra mae Llwybr Clawdd Offa yn cychwyn yn Sedbury ar lan ddwyreiniol yr afon, gyferbyn a Chas-gwent, ac yn dilyn yr afon am gryn bellter hefyd.

Mae Afon Gwy yn lle poblogaidd i ganŵio, gyda rhan sylweddol ohoni yn agored i'r gweithgarwch yma.

Cyfeiriadau golygu

  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 498
  2. "Safle SAC Afon Gwy (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-07. Cyrchwyd 2010-03-05.