Un o ledneintiau Afon Teesta, afon fwyaf Sikkim yng ngogledd-ddwyrain India, yw Afon Rangeet (sillafiad amgen: Afon Rangit).

Afon Rangeet
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSikkim Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Cyfesurynnau27.080112°N 88.432967°E Edit this on Wikidata
AberAfon Teesta Edit this on Wikidata
Hyd80 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Jorethang gydag Afon Rangeet yn y pellter

Gorwedd traddle'r afon ym mynyddoedd yr Himalaya yng Ngorllewin Sikkim, nepell o Kanchenjunga. Fe'i bwydir gan eira tawdd o'r Himalaya yn y gwanwyn a glaw y monsŵn yng Ngorffennaf ac Awst. Yn llifo ar hyd cwrs treollog trwy'r bryniau coediog, mae Afon Rangeet yn ymuno yn y Teesta yn nhref fechan Teesta Bazaar ar y ffin rhwng Gorllewin Bengal (Ardal Darjeeling) a Sikkim, gan ffurfio'r ffin rhwng y ddwy dalaith am 2–3 km olaf ei chwrs.

Mae'r afon yn lifo heibio i Yuksom, Jorethang, Pelling a Legship.