Afon Senegal

(Ailgyfeiriad o Afon Sénégal)

Afon fawr 1790 km o hyd yng Ngorllewin Affrica sy'n ffurfio'r ffin rhwng Senegal i'r de a Mawritania i'r gogledd yw Afon Senegal.

Afon Sénégal
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladMawritania, Senegal, Mali Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13.8144°N 10.8302°W, 15.9667°N 16.5086°W Edit this on Wikidata
AberCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Bafing, Afon Karakoro, Afon Bakoy, Afon Falémé, Afon Gorgol, Afon Kolinbiné, Afon Doué Edit this on Wikidata
Dalgylch419,575 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,050 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad640 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Cyfeiria Pliny yr Hynaf ati wrth yr enw Bambotus (o'r gair Ffeniceg behemoth sef "afonfarch") a gan Ptolemi wrth yr enw Nias. Ymwelodd Hanno o Carthago a'i haber yn 450 CC ar ei fordaith o Carthago drwy Pileri Herakles i Theon Ochema (Mynydd Camerŵn efallai) yng Ngwlff Gini. Sefydlwyd masnach rhwng trigolion glannau'r afon a dinasoedd y Môr Canoldir, tan i Carthago a'i rhwydwaith masnach yng ngorllewin Affrica gael ei dinsitrio yn 146 CC.

Mae'r afon yn cael ei ffurfio wrth i afonydd Semefe (Bakoy) a Bafing ymuno ger tref Bafoulabé, Mali. Mae'r afonydd Semefé a Bafing yn eu tro yn rhannu tarddle yn Gini; llifa Afon Bafing trwy Mali ac mae'r Semefé yn llifo ar hyd y ffin rhwng y wlad honno a Senegal.

Wrth iddi lifo tuag at ei haber, mae afon Senegal yn llifo trwy Biffeche a dinas Saint-Louis ac yna'n troi i'r de. Mae stribyn cul o dywod a enwir yn Langue de Barbarie yn gorwedd rhyngddi a'r Cefnfor Iwerydd ar ran olaf ei chwrs cyn iddi aberu yn y cefnfor hwnnw. Ceir dwy argae fawr ar ei chwrs, sef Argae Manantali sy'n creu Llyn Manantali ym Mali, ac Argae Maka-Diama ar y ffin rhwng Mawritania a Senegal, ger yr aber.

Y prif lednentydd yw Afon Faleme, Afon Karakoro, ac Afon Gorgol.

Llun lloeren gan NASA o gwrs Afon Senegal
Yr afon ger Saint-Louis