Afon yn Ne Asia yw afon Salawin, hefyd Salwin neu Salween . Mae'r afon, sy'n 2,815 km o hyd, yn tarddu yn Tibet, yna yn llifo trwy dalaith Yunnan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, lle gelir yr afon yn Nujiang. Oddi yno, llifa trwy Myanmar, lle gelwir hi yn Thanlwin. Am ran o'i hyd mae'n ffurfio'r ffîn rhwng Myanmar a Gwlad Tai, lle gelwir hi yn Mae Nam Salawin. Mae'r afon yn aberu ym Môr Andaman.

Afon Salawin
Mathafon drawsffiniol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhanbarth Ymreolaethol Tibet Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina, Gwlad Tai, Myanmar Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.845°N 91.5347°E, 16.15064°N 97.55719°E Edit this on Wikidata
TarddiadNagqu, Tsonag Lake Edit this on Wikidata
AberMôr Andaman Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Pai, Afon Moei, Afon Gyaing, Afon Nam Pang, Afon Teng, Nam Hka Edit this on Wikidata
Dalgylch325,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,815 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad4,876 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Dalgylch afon Salwin

Dim ond ar hyd daern byr ger yr aber y gellir defnyddio llongau arni. Yn Tsieina, mae'n llifo heibio clogwyni uchel. Yn Yunnan, ffurfia'r afon ran o "Ardal Warchodfa y Tair Afon Gyfochrog yn Yunnan", sydd wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Afon Salawin ger Mae Sam Laep, Amphoe Sop Moei