Afon Taf (Sir Gaerfyrddin)

afon yn Sir Gaerfyrddin

Mae Afon Taf yn afon yn ne-orllewin Cymru.

Afon Taf
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro
Sir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8°N 4.5°W Edit this on Wikidata
AberBae Caerfyrddin Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Cywyn Edit this on Wikidata
Hyd56 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Taf yn tarddu gerllaw pentref Crymych yn Sir Benfro. Wedi llifo trwy Lyn Glan-taf, mae'n llifo heibio'r Frenni Fawr i bentref Glog ac yna heibio Llanglydwen a Login i bentref Llanfallteg. Mae Afon Marlais yn ymuno â hi cyn iddi lifo trwy Hendy Gwyn ar Dâf ac yna trwy Sanclêr. Ychydig tu draw i Sanclêr mae Afon Cywyn yn ymuno â hi, cyn cyrraedd y môr gerllaw Talacharn. Mae'n llifo allan i Fae Caerfyrddin fel y mae Afon Tywi, afon y Gwendraeth Fawr a'r Gwendraeth Fach, ac Afon Llwchwr.

Pysgotwyr ar Afon Taf
Aber Afon Taf ger Talacharn