Afon Tamar

afon yng Nghernyw

Afon yn ne-orllewin gwledydd Prydain yw Afon Tamar (Cernyweg: Dowr Tamar).[1] Mae ei chwrs yn ffurfio'r rhan fwyaf o'r ffin rhwng Cernyw a Dyfnaint, De-orllewin Lloegr.

Afon Tamar
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCernyw, Dyfnaint Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.9139°N 4.4528°W, 50.3583°N 4.1667°W Edit this on Wikidata
AberAn Leysek Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Lyd, Afon Enni, Afon Otri, Afon Tavy Edit this on Wikidata
Dalgylch1,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd98 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad50 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol Edit this on Wikidata
Manylion

O'i tharddle rhwng Bude (Cernyw) a Clovelly (Dyfnaint) mae hi'n rhedeg ar gwrs deheuol bron ar draws penrhyn y de-orllewin gan groesi rhosdir Gwaun Bodmin a llifo i Fôr Udd ger Plymouth mewn aber eang sy'n ffurfio un o angorfeydd gorau gwledydd Prydain.

Yn 936, nodir i Athelstan osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex. Hyd heddiw mae'r afon yn nodi'r ffin rhwng Cernyw a Dyfnaint am y rhan fwyaf o'i chwrs.

Afon Tamer, gyda'r enwau mewn Cernyweg
Trên sy'n croesi pont dŵr Calstock ar Afon Tamar. Mae'r bont yn cario'r brif reilffordd sy'n cysylltu Cernyw â gweddill Prydain.

Cyfeiriadau golygu

  1. Maga Cornish Place Names Archifwyd 2017-06-01 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 8 Medi 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.