Afon yng nghanolbarth Cymru yw Afon Teifi. Mae'n llifo i Fae Ceredigion gerllaw Aberteifi. Am ran olaf ei chwrs mae'n dynodi'r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Afon Teifi
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.08°N 4.67°W, 52.135783°N 4.170712°W Edit this on Wikidata
AberBae Ceredigion Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Cuch, Afon Brenig, Afon Dulas (Ceredigion) Edit this on Wikidata
Dalgylch1,008 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd122 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Afon Teifi yn llifo trwy Gors Caron.
Yr hen bont ar afon Teifi, Llechryd.

Cwrs golygu

Mae afon Teifi yn tarddu yn Llyn Teifi yn rhan ogleddol Ceredigion, i'r dwyrain o bentref Ffair-rhos. Wedi llifo tua'r gorllewin heibio i Abaty Ystrad Fflur mae'n cyrraedd pentref Pontrhydfendigaid ac yna'n troi tua'r de-orllewin gan lifo trwy Gors Goch Glan Teifi, a adwaenir hefyd fel Cors Caron. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy dref Tregaron ac yna'n parhau tua'r de-orllewin gan fynd heibio i Landdewi Brefi, lle mae afon Brefi yn ymuno â hi. Wedyn mae'n mynd drwy Lanfair Clydogau, Cwmann, Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder. Ychydig cyn cyrraedd Llandysul mae Afon Cletwr yn ymuno â hi, ac yna mae'n llifo trwy Gastell Newydd Emlyn, Cenarth, a ger Abercuch mae'r Afon Cuch yn ymuno â hi. Wedyn â heibio Cilgerran a Llechryd cyn cyrraedd y môr islaw Aberteifi. Gellir gweld effaith y llanw cyn uched â Llechryd.

Pysgota golygu

Un o nodweddion afon Teifi yw'r traddodiad o bysgota, am eog yn bennaf, gan ddefnyddio cwrwgl yn y rhannau o amgylch Cenarth. Mae'r afon hefyd yn cynnig pysgota da gyda'r enwair.

Pyllau 'Sgota Afon Teifi golygu

Enwau Pyllau Afon Teifi : Ffynhonell Caradog Jones, Caernarfon cyn feiliff yr afon, cofnodwyd gan Ifor Williams ar ran Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

Pontrhydfendigiaid i Dregaron

1                   Pwll Tarw

2                   Pwll Hir Cam / Trebrysg

3                   Pwll Llyn Derlwyn

4                   Pwll Bont – Goch

Tregaron i Lanio

5                   Pwll Pysgotwr

6                   Pwll Abercoed

7                   Pwll carreg Dai Lewis (Carreg Goffa)

8                   Pwll tip, Ty’n y Domen

9                   Pwll Ogwyn

10               

11               Pwll Efail Fach

12               Pwll Nantdderwen

Llanio i Gogayan

13               Pwll Signal

14               Pwll Dolau Gwawr

15               Pwll Felin Llanio

16               Pwll Colli Bache

17               Pwll Coed y Gôf

18               Pwll Llynddu

19               Pwll Williams

20               Pwll Peter

21               –

Gogayan i Lanfairclydogau

22               Pwll y Wal

23               Pwll Yr Ysgol

24               Pwll Gogayan

25               Pwll Glanrhacca

26               Pwll Clwt y Patrwn

27               Pwll Waun Wen

Llanfair i Llambed

28               Pwll Drain Duon

29               Pwll Ceffyl Du Trebannau

30               Pwll Ceire

31                Hilary

32               Pwll Baker

Llambed i Lanybydder

33               Pwll Brick Yard

34               Pwll Baili Coch

35               Pwll Mundy

36               Pwll Wires

37               Pwll Sand

38               Pwll John Mawr

39               Pwll y Bâd

40               Pwll Ladi Wen

41               Pwll Du Lawtre (Parch Jacob Davies)

42               Pwll Ceulan

43               Pwll Napier

44               Pwll Rhydybawe neu Y Bane

45               Pwll Gelletch

46               Pwll Y Watch

47               Pwll Craig y Wlff

Llanybydder i Maescrugiau a Llanfihangel ar Arth

48               Pwll Captain Thomas

49               Pwll Gwrdy

50               Pwll Onnen Fawr

51               Pwll Gwiael Coch

52               Pwll Y Tren

53               Y Gweision

54               Pwll Ceffylau Gwedd

55               Pwll Craig y Lantarn

56               Pwll Glas – Crug y whil

57               Pwll Garreg Fawr. Dolauduon

58               Pwll Ficer (Vicars)

59               Pwll Jack.  Enwog iawn

60               Pwll Bailer (Tren)

61               Pwll Graig Fach

62               Pwll Llyn y Cawr

63               Pwll Dwrgi

64               Pwll Defaid

65               Pwll Ceffylau

Llanfihangel i Landysul

66               Pwll Genau Clettwr

67               Pwll Pwll Antie Jane – Colli eog mawr

68               Pwll Oak

69               Pwll Little Gravel

70               Pwll Escort

71               Pwll Sunday

72               Wood Pool

73               Rocky Pool

Wall Pool

74               Little Run

75               Horse Pool

76               Gee’s Pool

77               Cerdin flats

78               Pen pwll

Llandysul i Allt y Cafan

79               

80               Rhydygalfe

81               Pwll Henry a

82               Pwll Du ( Hoff byllau Cynan 81 a 82)

83               Pwll

84               Pwll Cware

85               Pwll Dôl Watts

86               Pwll Yr Ardd

Allt y Cafan I Henllan

87               Pwll Allt Cafan

88               Pwll Cefn – Mochyn

89               Pwll Badell fach

90               Pwll Badell Fawr

91               Pwll Cart

92               Pwll Mawr Trebedw

93               Pwll Hir Henllan

Henllan i Gastell Newydd Emlyn

94               Pwll Henllan

95               Pwll Glas Dolfrenir

96               Pwll Cwerchyl

97               Pwll Dan y Warren

98               Pwll Castell

Castell Newydd Emlyn i Genarth

99               Pwll William

100           Pwll Llygod y Fforest  [gall hwn fod yn llygad?]

101           Pwll Pengwenallt

102           Pwll Y pwmp

Cenarth i Lechryd

103           Pwll Rhaeadrau Cenarth

104           Pwll Sargant

105           Pwll Allt y Bwla

106           Pwll Penllan

107           Pwll Llwyndyrus

Llechryd i Aberteifi

108           Y Llyn

109           Pwll y Meudwy

110           Pwll Bwmbwll

111           Pwll March

112           Pwll Cwmdu

113           Pwll gafr neu Rhyd yr Afr

Aberteifi i’r Môr

114           Pwll Coal Yard

115           Pwll Net (Net Pool)

116           Pwll Sarna

Cadwraeth golygu

Mae Afon Teifi wedi'i dynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig.

Gweler hefyd golygu