Afon Terek

afon Yn Georgia a Rwsia

Afon sy'n llifo trwy Georgia a Rwsia i ymuno â Môr Caspia yw afon Terek (Georgeg: Tergi, Tsietsieg: Terk). Hi yw'r ail-fwyaf o'r afonydd sy'n tarddu ym Mynyddoedd y Cawcasws, ac mae ei hyd yn 623 km.

Afon Terek
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMtskheta-Mtianeti, Kabardino-Balkaria, Gogledd Osetia, Tsietsnia, Dagestan Edit this on Wikidata
GwladGeorgia, Rwsia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.6215°N 44.2474°E, 43.5953°N 47.5597°E Edit this on Wikidata
TarddiadMount Kazbek Edit this on Wikidata
AberMôr Caspia Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Malka, Afon Urukh, Afon Ardon, Afon Sunzha, Ursdon, Lesken, Kistinka (river), Argudan, Kuyan, Demenyuk, Armkhi, Afon Kambileyevka, Q6565501, Kurp, Chkheri, Akbashsky Canal Edit this on Wikidata
Dalgylch43,200 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd623 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad305 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Mae'n tarddu mewn rhewlif yn Georgia, ym mynyddoedd y Cawcasws yn agos at y ffîn a Rwsia. Mae'n llifo tua'r gogledd i mewn i Rwsia. Yn Rwsia, mae'n llifo trwy bedair gweriniaeth ymreolaethol, Gogledd Ossetia, Kabardino-Balkaria, Gogledd Ossetia eto, Tsietsnia a Dagestan. Y ddinas fwyaf ar yr afon yw Vladikavkaz, prifddinas Gogledd Osetia, a saif lle mae'r afon yn cyrraedd y gwastadedd.

Afon Terek yng ngogledd Georgia