Afon Tywi

afon yn Sir Gaerfyrddin

Mae Afon Tywi yn afon yn ne-orllewin Cymru. Hi yw'r afon hwyaf sy'n gyfangwbl yng Nghymru, yn 108 km (68 milltir) o hyd.

Afon Tywi
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2531°N 3.7564°W, 51.75389°N 4.38806°W Edit this on Wikidata
TarddiadMynyddoedd Cambria Edit this on Wikidata
AberBae Caerfyrddin Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Brân, Afon Cothi, Afon Gwili, Afon Sawdde, Afon Dulais, Afon Dulais Edit this on Wikidata
Dalgylch1,333 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd121 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad45 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Cwrs golygu

Mae Afon Tywi yn tarddu ar lethrau Crug Gynan, yn agos i'r ffin rhwng Ceredigion a Phowys. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy Llyn Brianne, cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Pwrpas yr argae yw rheoli llif yr afon, a'i gwneud yn bosibl i gymeryd dŵr o'r afon yn Nant Garedig. Mae'r cynllun yma yn darparu dŵr i ran helaeth o ardaloedd diwydiannol de Cymru. Yn fuan ar ôl iddi adael y llyn, mae Afon Doethïe yn ymuno â hi.

Mae'r afon yn llifo tua'r de-orllewin ac yn cyrraedd Sir Gaerfyrddin gan lifo trwy Llanymddyfri, lle mae Afon Brân yn ymuno â hi, Llanwrda a Llangadog, lle mae Afon Sawdde yn ymuno. Mae Afon Dulais yn ymuno ychydig cyn cyrraedd Llandeilo ac Afon Cennen yn fuan wedyn. Ychydig ar ôl mynd heibio Llanarthne, mae Afon Cothi yn ymuno. Mae'n llifo trwy dref Caerfyrddin, lle mae Afon Gwili yn ymuno yn Abergwili. Mae'n cyrraedd y môr gerllaw Llansteffan, gan rannu aber ag Afon Tâf ac Afon Gwendraeth.

 
Afon Tywi yn dirwyn ar draws Sir Gaerfyrddin rhwng y Dryslwyn a Llanegwad
 
Aber yr Afon Tywi yn Llansteffan

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.