Cymdeithas ydy Agan Tavas (Ein Hiaith) sy'n hybu'r Gernyweg. Fe'i sefydlwyd ym 1987 i hybu defnydd o'r iaith o ddydd i ddydd. Pan sefydlwyd y cymdeithas, dim ond siaradwyr rhugl oedd yn gallu bod yn aelodau ohoni. Ym 1990, daeth Agan Tavas yn gymdeithas agored, gyda'r amcan o sicrhau cefnogaeth parhaol i'r ffurf Undebol o Gernyweg adfyŵyd (a arddelwyd yn gyntaf ym 1929 gan Robert Morton Nance).

Agan Tavas
Enghraifft o'r canlynolmudiad gwirfoddol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae Agan Tavas yn cydnabod gwirionedd unrhyw ffurf o Gernyweg sy'n cael ei adfywio a'i ddefnyddio heddiw, ond yn gwrthwynebu defnyddio'r hyn a ystyria'n ffurfiau ffug o Gernyweg, nad ydynt yn meddu ar unrhyw ddilysrwydd hanesyddol.

Cafwyd cynnydd yn nifer aelodau Agan Tavas ar ôl 1995, pan ddywedodd Nicholas Williams o Brifysgol Dulyn yn ei lyfr Cornish Today (Cymraeg: Cernyweg heddiw), fod y ffurf o Gernywg Cyffredin a ddiffinwyd yn Kernewek Kemmyn gan Ken George, a gefnogwyd gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg, yn wallus iawn.

Heddiw, mae Agan Tavas yn cefnogi newidiadau i Gernwyeg Undebol, tra'n parchu hawl ei haelodau i ddefnyddio Cernyweg Undebol neu Gernyweg Undebol Adfyŵyd. Mae'n cadw rhestr o ddosbarthiadau sy'n defnyddio Cernyweg hanesyddol, yn trefnu digwyddiadau i'w haelodau ac yn cyhoeddi llyfrau ymhob ffurf o'r iaith. Mae hi hefyd yn cyhoeddi cylchgrawn bob pedwar mis i'w haelodau o'r enw An Gowsva ('Y Siop sy'n Siarad').

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato