Agincourt House, Trefynwy

tŷ rhestredig Gradd II* yn Nhrefynwy

Perthyn i ddechrau'r 17g y mae Agincourt House, Rhif 1 Sgwâr Agincourt, Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru. Mae'n adeilad nodedig gyda hanner ohono'n ffrâm bren.[1] Cofrestrwyd y tŷ hwn ym Mehefin 1952 fel adeilad Gradd II*.[2]

Agincourt House, Trefynwy
Math Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1624 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr25.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8124°N 2.7151°W Edit this on Wikidata
Cod postNP25 3BT Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddpren, plethwaith a chlai Edit this on Wikidata

Mae'n un o 24 o adeiladau hanesyddol sydd ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.

Hanes golygu

 
William Honeyfield, cyn Faer y Dre[3]

Dros y blynyddoedd mae'r adeilad wedi'i adfer gryn dipyn. Ceir y dyddiad 1624 ar y taclen, ar ddarn o bren.[1] Mae'r llythrennau blaen o bobty'r dyddiad yn perthyn i William Roberts: ei ŵyr a adferodd Tŷ Drybridge gerllaw.

Dengys fod yma dŷ ar y safle hwn ar fap 1610 gan John Speed. Tydy'r ffrynt presennol, fodd bynnag, ddim mor hen, gan ei fod yn perthyn i ddiwedd y 19ed ganrif.[4] O tua 1830 hyd at ddiwedd y 18ed ganrif, siop-bob-dim ydoedd (neu ironmongers) a'i berchennog oedd Josiah Coates a weithiai hefyd fel gofaint, clochydd a gwneuthurwr hoelion. Yn ôl pob tebyg, mae'r cyn Brif Weinidog John Major yn ddisgynnydd iddo. [angen ffynhonnell]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, t.405
  2. Agincourt House, British Listed Buildings, adalwyd 25 Ionawr 2012
  3. Welsh Mayors Elect, Western Mail, 9 Tachwedd 1892
  4. Agincourt House 1 and 1a Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback., Royal Commission on Ancient Monuments, adalwyd 25 Ionawr 2012