Al-Fâtiha ("Yr hyn sy'n agor", "agoriad") yw swra agoriadol y Corân. Mae'n un o destunau sylfaenol Islam, a elwir mewn rhai o'r Hadithau yn "Fam y Llyfr" (Umm al-Kitab) a "Mam y Corân" (Umm al-Qur'an). Fe'i hadroddir gan bob Mwslim uniongred ar ddechrau ei weddïo defodol, bum gwaith y dydd. Ar ôl adrodd y Fâtiha mae'n arferol dweud âmin (Amen). Mae'n un o'r swrâu byrraf yn y Corân, ac iddi 7 pennill (âya) byr yn unig:

    1. Yn enw'r Duw Trugarhaol, Rhoddwr pob daioni.
    2. Moliant i Dduw, Arglwydd y Bydysawd,
    3. Rhoddwr pob daioni, y Trugarhaol,
    4. Brenin Dydd y Farn Olaf.
    5. Fe'th addolwn; atat Ti yn unig trown am gymorth.
    6. Arwain ni hyd Llwybr Cyfiawnder,
    7. Llwybr y rhai sydd wedi derbyn Dy ddaioni, y rhai nad ennynant Dy ddicter, y rhai nad ydynt ar gyfeiliorn.
Al-Fâtiha
Enghraifft o'r canlynolSwra Edit this on Wikidata
MathY Corân Edit this on Wikidata
AwdurGod in Islam Edit this on Wikidata
GwladHijaz Edit this on Wikidata
Rhan odhikr, Dua Edit this on Wikidata
IaithArabeg Clasirol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu631 Edit this on Wikidata
GenreSwra, ysgrythur, pennod Edit this on Wikidata
CyfresSwra Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTa'awwudh, Basmala Edit this on Wikidata
Olynwyd ganamen, Sadaqa Allah al-Azim, Al-Baqarah Edit this on Wikidata
CymeriadauDuw, Al-lâh, God in Islam, theistiaeth, Deistiaeth, Alamin, Ar-Rahman, Ar-Rahim, Al-Malik, Dydd y Farn, As-Sirāt, Muslim, mu'min, credwr, kafir, infidel, nonbeliever Edit this on Wikidata
Prif bwncTilawa Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Byd Mwslemaidd, ledled y byd Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithArabia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
ٱلۡفَاتِحَةِ
Al-Fâtiha: swra agoriadol y Corân