Aelod Seneddol Llafur a chyn-Ysgrifennydd Cartref (2009-2010) yw Alan Arthur Johnson (ganwyd 17 Mai 1950). Mae ef yn Aelod Seneddol dros etholaeth Gorllewin Hull a Hessle.

Alan Johnson
GanwydAlan Arthur Johnson Edit this on Wikidata
17 Mai 1950 Edit this on Wikidata
Paddington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Kensington and Chelsea College
  • Pimlico Academy
  • Morley College Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
SwyddCanghellor y Trysorlys yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol, Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.alanjohnson.org/ Edit this on Wikidata

Bywyd Cynnar golygu

Cafodd Johnson ei eni yn Llundain, ond bu ei fam yn farw pan oedd yn 12 mlwydd oed. Yn sgil hyn cafodd ei fagu gan ei chwaer hyn wedi i'w Swyddog Lles Plant cynnig fflat cyngor iddynt. Enillodd safle yn ysgol gramadeg Sloane, Chelsea, wedi llwyddiant yn yr arholiad. Ond bu'n gadael ysgol yn 15 mlwydd oed yn unig, ac yn cymryd swydd gyda Tesco. Yn 18 mlwydd oed cymerodd swydd fel postmyn.

Yn ei hamser fel postmyn, ymunodd gyda Undeb Gweithwyr Cyfathrebu gan ddengys i fod yn swyddog adran. Ymunodd a'r blaid Lafur yn 1971 er gwaethaf credu fod ei syniadau gwleidyddol yn cael ei gynrychioli'n well gan Plaid Comiwnyddol Prydain. Yn 1987 doth yn swyddog llawn amser gyda'r undeb, ac erbyn 1993 ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.

Aelod Seneddol golygu

Cafodd Johnson ei ddewis i gystadlu etholaeth Gorllewin Hull a Hessle dair wythnos cyn yr etholiad wedi ymddiswyddiad sydyn Stuart Randall, gyda Randall yn ennill dyrchafiad i Dŷ'r Arglwyddi.

Yn y Llywodraeth golygu

Rhwng 1997 a 1999 roedd Johnson yn Ysgrifennydd Preifat i'r Senedd dros Dawn Primarolo yn y Trysorlys. Yn 1999 apwyntiwyd i fod yn Weinidog yn yr Adran Diwydiant a Masnach. Yn 2003 symudodd i fod yn Weinidog Addysg Uwchradd yn Adran Addysg a Sgiliau.

Wedi ymddiswyddiad Andrew Smith ym Medi 2004, enillodd Johnson ddyrchafiad i'r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Symudodd i ddod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwydiant a Masnach wedi etholiad 2005, ac eto yn 2006 i ddod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau yn lle Ruth Kelly.

Cystadleuaeth Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur golygu

Datgannodd Johnson ym Mai 2006 fod ef yn barod i gystadlu i ddod yn Ddirprwy Brif Weinidog wedi i John Prescott ymddeol. Roedd rhai yn credu bod ef yn barod i gystadlu yn erbyn Gordon Brown i olynnu Tony Blair, ond dewisiodd Johnson gefnogi Brown. Yn y gystadleuaeth i ddod yn Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, daeth Johnson yn ail i Harriet Harman gyda 49.56% yn pleidleisio drosto.

Ysgrifennydd Iechyd ac Ysgrifennydd Cartref golygu

Wedi i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog ym Mehefin 2007, symudodd Johnson eto i ddod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn lle Patricia Hewitt. Ond, wedi ailgymysgiad cabinet Gordon Brown ym Mehefin 2009, symudodd Johnson eto i ddod yn Ysgrifennydd Cartref yn lle Jacqui Smith. Roedd llawer yn credu buasai Johnson yn herio Gordon Brown i ddod yn Brif Weinidog, ond cymerodd y swydd yn yr Swyddfa Gartref.

Bywyd personol golygu

Yn 1968 priododd Johnson Judith Cox, a cawsant ddau mab a dwy ferch. Wedi i'r ddau ysgaru, priododd Johnson Laura Jane Patient yn 1991 ac mae ganddynt un mab. Mae Johnson wedi datgan fod ef yn anffyddiwr.

Dolenni allanol golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Orllewin Kingston upon Hull a Hessle
1997 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Andrew Smith
Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau
8 Medi 20046 Mai 2005
Olynydd:
David Blunkett
Rhagflaenydd:
Patricia Hewitt
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd
28 Mehefin 20075 Mehefin 2009
Olynydd:
Andrew Burnham
Rhagflaenydd:
Jacqui Smith
Ysgrifennydd Cartref
5 Mehefin 200912 Mai 2010
Olynydd:
Theresa May