Alban (merthyr)

merthyr Cristnogol cynharaf Ynys Brydain

Merthyr Cristionogol cynharaf Prydain Rufeinig oedd Sant Alban. Gyda Julius ac Aaron, mae'n un o dri merthyr o'r cyfnod yma.

Alban
Ganwyd3 g Edit this on Wikidata
Verulamium Edit this on Wikidata
Bu farw305 Edit this on Wikidata
Verulamium Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl22 Mehefin Edit this on Wikidata

Merthyrwyd ef yn Verulamium, yn awr St Albans, yn ne Lloegr. Mae ansicrwydd am y dyddiad; gallai fod yn ystod yr erlid dan yr ymerawdwr Diocletian tua 303 neu tua 251 - 259 dan Decius neu Valerianus. Awgrymodd John Morris y gallai fod wedi ei ferthyru yn ystod yr erlid dan yr ymerawdwr Septimius Severus yn 209.

Ceir cyfeiriad ato gan Gildas yn ei De Excidio Britanniae:

Duw ... a oleuodd i ni lampau disglair y merthyron sanctaidd ... siaradaf am Sant Alban yn Verulamium, Aaron a Julius, dinasyddion Caerllion, a'r gweddill, o'r ddau ryw mewn amrywiol leoedd, a safodd yn gadarn ac uchelfrydig ym mrwydr Crist".

Gweler hefyd golygu

Erthygl Alban yng Ngeiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I ar Wicidestun