Albert Camus

athronydd, awdur a newyddiadurwr o Ffrainc (1913-1960)

Llenor yn yr iaith Ffrangeg ac athronydd oedd Albert Camus (7 Tachwedd 1913 - 4 Ionawr 1960), a anwyd yn Mondovi (heddiw: Dréan) yn Algeria. Ystyrir Camus ymhlith awduron mwyaf blaenllaw a dylanwadol y 20g.

Albert Camus
Ganwyd7 Tachwedd 1913 Edit this on Wikidata
Dréan Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1960 Edit this on Wikidata
o single-vehicle accident Edit this on Wikidata
Villeblevin Edit this on Wikidata
Man preswylFfrainc Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Addysglicence, DES Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Algiers Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, athronydd, nofelydd, newyddiadurwr, awdur ysgrifau, dramodydd, sgriptiwr, gwrthsafwr Ffrengig, bardd, pêl-droediwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Alger républicain
  • L'Express Edit this on Wikidata
Adnabyddus amL'homme révolté, A Happy Death, The Fall, The Myth of Sisyphus, L'Étranger, La Peste, Albert Camus, María Casares. Correspondence (1944-1959), Caligula, Neither Victims Nor Executioners Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSøren Kierkegaard, André Malraux, Plotinus, Friedrich Nietzsche, Franz Kafka, Jean Grenier, André Gide, Fyodor Dostoievski, Lev Shestov, Martin Heidegger, Karl Jaspers, Simone de Beauvoir, Jean-Paul Sartre Edit this on Wikidata
Mudiadcontinental philosophy Edit this on Wikidata
PriodSimone Hié, Francine Faure Edit this on Wikidata
PartnerBlanche Balain, María Casares, Mamaine Koestler, María Casares, Catherine Sellers, Mette Ivers Edit this on Wikidata
PlantCatherine Camus, Jean Camus Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Fel Jean-Paul Sartre a Simone de Beauvoir, arddelai Camus athroniaeth dirfodaeth (Existentialism). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1957.

Dyn papur newydd a chynhyrchydd dramâu oedd wrth ei alwedigaeth; fe gyhoeddodd gyfrolau o ysgrifau ar athroniaeth a gwleidyddiaeth ac ysgrifennodd ddramâu, ond fel athronydd ac, yn enwedig, fel nofelydd y daeth i fri ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Defnyddiodd y nofel fel cyfrwng i fynegi ei syniadau am fywyd a chyflwr y ddynoliaeth.

Bywyd cynnar golygu

Nid Ffrancwr ond Algeriad o dras cymysg oedd Camus. Er iddo yn y pen draw ymsefydlu yn Ffrainc, ni chollodd ei hiraeth am ei hen fro, fel y dengys yn ei waith. Ganed ef yn Algeria ar 7 Tachwedd, 1913, yn fab i rieni tlawd ac anllythrennog bron. Hanai ei dad, gweithiwr fferm, o Alsace yn nwyrain Ffrainc. Ychydig ar ôl geni'r mab lladdwyd y tad, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Hanai teulu ei fam o ynys Mallorca. O ganlyniad i ddamwain yn ystod ei phlentyndod, gadewid y fam yn fyddar ac â nam ar ei llefarydd. Prin felly oedd y cyfathrebu rhwng mam a mab, a phrin y mynegiant o gariad, ond bu gan ei berthynas â'i fam ddylanwad dwfn a pharhaodd ar Camus ar hyd ei oes.

Er gwaethaf tlodi ei blentyndod, ni fu hyn yn achos iddo chwerwi ac yn wir fe ddiolchai i'r tlodi am ffurfio ei gymeriad teimladwy.

Fel plentyn deallus cafodd sylw a gofal arbennig athrawon ysgol ac enillodd ysgoloriaeth ym 1923 i Ysgol Ramadeg Algiers, lle disgleiriai fel nofelwr, dawnsiwr a gôl-geidwad pêl-droed.

Gyda golwg ar yrfa fel athro, astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Algiers. Ond roedd yn dioddef o'r ddiciâu (tuberculosis) ers yn ddwy ar bymtheg oed ac yn y diwedd, oherwydd gwaeledd, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w uchelgais. Ym 1933 priododd ond ar ôl blwyddyn bu ysgariad. Ychidig a wyddys am y briodas. Ymunodd a'r Blaid Gomiwnyddol a chael y gorchwyl o ledaenu'r neges ymhlith yr Arabiaid, ond ar ôl Cytundeb Laval-Stalin, 1935, adawodd y blaid.

Gweithiodd fel clerc yn Swyddfa'r Sir, yn y Sefydliad Astudio Tywydd ac fel aelod o Gwmni Drama Teithiol dan nawdd Gorsaf Radio Algiers. Y theatr a chwaraeon oedd ei brif ddiddordebau, ond darllenai'n helaeth. Ysgrifennodd ddramâu a ffurfio cwmni drama i ddod â theatr i'r werin. Teithiodd yn Ffrainc, yr Eidal ac Awstria.

Cwblhaodd ei radd yn 1936 ac yna ysgrifennodd traethawd ymchwil. Erbyn 1938 daethai i fedru ennill bywoliaeth fel dyn papur newydd, yn gweithio gyda'r Alger-Répubicain, unig bapur y chwith yn Algeria. Am gyfnod daeth yn olygydd ar y papur. Mewn cyfres o erthyglau ymosodol achubodd gam yr Arabiaid a'r Kabyliaid a ddioddefai o anghyfiawnder yr awdurdodau Ffrengig. Ar hyd ei oes bu Camus yn groesgadwr pybyr dros gyfiawnder cymdeithasol.

Ail Ryfel Byd golygu

Pan dorrodd y rhyfel allan fe waharddwyd y papur a bu'n rhaid i Camus ymfudo i Ffrainc i gael gwaith. Ond yn fuan fe oresgynnwyd Ffrainc gan y Natsïaid a bu'n rhaid ffoi i Lyon. Yno fe ail-briododd a dychwelyd gyda'i wraig i Algeria. Eto aeth yn ôl i Ffrainc ac oherwydd y rhyfel fe gollodd bob cysylltiad â hi.

Eisoes roedd wedi cwblhau L'Étranger (Y Dieithryn) a'i lyfr enwog Le Mythe de Sisyphe (Chwedl Sisyphus). Cyhoeddwyd y ddau ym 1942 a daethant a bri iddo'n syth. Ym 1943 ymunodd a'r mudiad Résistance a oedd yn ymladd yn erbyn goresgyniad Ffrainc. Aeth yn olygydd 'Combat', papur y mudiad ym 1944. Yn y papur mynegai Camus ei obaith y gwelid trefn newydd a chyflawnach yn Ffrainc wedi’r rhyfel, ond fe ddadrithiwyd ef a rhoes y gorau i’r papur newydd ym 1945, ac i waith cyson fel ysgrifennwr i bapur newydd, gan ei gyfyngu ei hun i bynciau o bwys eithriadol.

Gwobr Nobel golygu

 
Albert Camus, gan Petr Vorel

Gyda chyhoeddiad ei nofel fawr La Peste (Y Pla) yn 1947 daeth i'w le fel un o brif lenorion yr oes. Teithiodd i'r Unol Daleithiau yn 1946 ac i Frasil yn 1949. Ar ôl pwl drwg o diciâu yn y flwyddyn honno fe giliodd o fywyd cyhoeddus ac ysgrifennu L'Homme Révolté (Dyn Mewn Chwyldro). Achosodd y llyfr hwn ffrae enwog rhwng Camus a Jean-Paul Sartre yn y wasg. Digalonnwyd Camus gan y derbyniad a gafodd ei lyfr, a chan y rhyfel gwaedlyd yn ei wlad ei hun, yn Algeria. Ni fynnai ochri â'r naill ochr neu'r llall, ond yn ddewr iawn fe aeth yn ôl i apelio (yn ofer) am gadoediad.

Yn 1956 fe gyhoeddwyd ei nofel olaf, La Chute (Y Cwymp), ac yn 1957 ei gasgliad olaf o straeon byrion, L'Exil et le Royaume (Allwedd a'r Deyrnas). Y flwyddyn honno, fe ddyfarnwyd iddo Wobr Lenyddol Nobel. Gyda'r arian fe brynodd dŷ yn ne Ffrainc lle aeth ati i weithio ar nofel a chasgliad o straeon byrion. Daliai yn fregus ei iechyd. Ar 4 Ionawr, 1960, wrth ddychwelyd i Baris ar ôl gwyliau'r Flwyddyn Newydd gyda'i gyfaill, y cyhoeddwr Michel Gallimard, fe sglefriodd y car a chwalu'n gyrbibion yn erbyn coeden. Lladdwyd Camus yn y fan, ond yn 46 oed.

Camus yn Gymraeg golygu

Mae gwaith Albert Camus wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg sawl tro, yn cynnwys:

Cyfeiriadau golygu

 
Clawr - Y Dieithryn gan Albert Camus, Trosiad Bruce Griffiths, 1972

Addaswyd yr uchod o gyflwyniad Bruce Griffiths i’w drosiad L'Étranger (Y Dieithryn) Cyfres yr Academi Rhif 1, 1972. Gwasg Gomer

Gwaith llenyddol (detholiad) golygu

  • L'Envers et l'Endroit, 1937
  • Noces, 1938 (ysgrifau)
  • Le Mythe de Sisyphe ("Chwedl Sisyphus"), 1942 (ysgfrifau)
  • L'Étranger ("Y Dieithryn"), 1942 (nofel)
  • Caligula, 1944 (drama am fywyd Caligula)
  • Le Malentendu, 1944
  • Réflexions sur la Guillotine, 1947
  • La Peste ("Y Pla"), 1947 (Prix de la critique 1948: nofel wedi'i lleoli yn Oran, Algeria)
  • L'État de siège , 1948
  • Lettres à un ami allemand, 1948 (ysgrifau dan y ffugenw Louis Neuville)
  • Les Justes, 1950 (drama)
  • L'Homme révolté, 1951
  • L'Été, 1954
  • La Chute ("Y Cwymp"), 1956
  • L'Exil et le royaume, 1957
  • Les Possédés ("Y Meddianedig", 1959, (addasiad i'r llwyfan o lyfr enwog Fedor Dostoïevski)
  • Carnets I., 1962
  • Le Premier Homme ("Y Dyn Cyntaf"), Gallimard, 1994 (nofel anorffenedig)
  • Albert Camus, Maria Casarès. Correspondance inédite (1944-1959). Édition de Béatrice Vaillant. Avant-propos de Catherine Camus. Collection Blanche, Gallimard. Parution : 09-11-2017.

Cyfeiriadau golygu