Gwleidydd o'r Alban a chyn-arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban (yr 'SNP') yw Alexander Elliot Anderson Salmond (ganwyd 31 Rhagfyr 1954). Hyd at ei ymddiswyddiad ar 19 Tachwedd 2014 Salmond oedd pedwerydd Prif Weinidog yr Alban; parhodd fel Aelod Senedd yr Alban dros Dwyrain Swydd Aberdeen hyd at 2016. Ar 19 Medi 2014, yn dilyn methiant yr ymgyrch dros annibyniaeth, dywedodd na fyddai'n ailsefyll fel Prif Weinidog y wlad; dywedodd "Mae fy nghyfnod i ar ben, ond mae'r freuddwyd yn fyw." Yn fwy na neb arall, ef fu prif ladmerydd dros annibyniaeth i'r Alban o'r 1990au hyd at fis Medi 2014. Ar 19 Tachwedd 2014 yn dilyn cyhoeddi ei ymddiswyddiad trosglwyddodd arweinyddiaeth ei blaid a Phrif Weinidogaeth ei wlad i Nicola Sturgeon.[3]

Y Gwir Anrhydeddus
Alex Salmond
Prif Weinidog yr Alban
Yn ei swydd
16 Mai 2007 – 19 Tachwedd 2014
TeyrnElisabeth II
DirprwyNicola Sturgeon
Rhagflaenwyd ganJack McConnell
Dilynwyd ganNicola Sturgeon
Arweinydd yr SNP
Yn ei swydd
3 Medi 2004 – 14 Tachwedd 2014
Rhagflaenwyd ganJohn Swinney
Dilynwyd ganNicola Sturgeon
Yn ei swydd
22 Medi 1990 – 26 Medi 2000
Rhagflaenwyd ganGordon Wilson
Dilynwyd ganJohn Swinney
Aelod Senedd yr Alban
dros Dwyrain Swydd Aberdeen
Yn ei swydd
5 Mai 2011 – 5 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganSefydlu'r etholaeth
Aelod Senedd yr Alban
dros Gordon
Yn ei swydd
3 Mai 2007 – 5 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganNora Radcliffe
Dilynwyd ganDaeth yr etholaeth i ben
Etholaeth Senedd yr Alban
dros Banff a Buchan
Yn ei swydd
6 Mai 1999 – 7 Mehefin 2001
Rhagflaenwyd ganCrewyd yr etholaeth
Dilynwyd ganStewart Stevenson
Aelod Seneddol
dros Banff a Buchan
Yn ei swydd
11Mehefin 1987 – 6 Mai 2010
Rhagflaenwyd ganAlbert McQuarrie
Dilynwyd ganEilidh Whiteford
Manylion personol
GanwydAlexander Elliot Anderson Salmond
(1954-12-31) 31 Rhagfyr 1954 (69 oed)
Linlithgow, West Lothian, yr Alban
Plaid wleidyddolPlaid Genedlaethol yr Alban
PriodMoira Salmond
CartrefBute House, Caeredin (Official)
Strichen, yr Alban (Private)
Alma materPrifysgol St Andrews
GalwedigaethEconomegydd
GwefanAlex Salmond AGA
o ragen radio'r BBC: Desert Island Discs, 16 Ionawr 2011[2]

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Y dyddiau cynnar golygu

Ganwyd Salmond yng nghartref y teulu yn 101 Ffordd Preston, Linlithgow, Dwyrain Lothian, yr Alban ar y diwrnod olaf o 1956 (Hogmany).[4][5] Ef yw'r ail o bedwar plentyn a anwyd i Robert Fyfe Findlay Salmond a Mary Stewart Salmond (née Milne), ill dau'n weithwyr sifil.[6] Trydanydd o ran crefft oedd ei dad Richard a bu ei deulu'n byw yn Linlithgow ers canol y 18g.[7] Daw enwau canol Salmon o enwau gweinidogion yr eglwys leol, arferiad cyffredin iawn yn yr ardal yr adeg honno.[8][9]

Mynychodd Academi Linlithgow Academy rhwng 1966 a 1972 cyn mynd yn ei flaen i Goleg Masnach Caeredin (Edinburgh College of Commerce) rhwng 1972 a 1973, gan ennill HNC mewn astudiaethau busnes,[10] a chael ei dderbyn i astudio ym Mhrifysgol St Andrews, ble'r astudiodd economeg a hanes yr Oesoedd Canol. Cafodd ei ethol yn Is-Lywydd (Addysg) undeb y myfyrwyr yn 1977 a hefyd ei ethol ar Gyngor Cymuned St Andrews yn yr un flwyddyn.[11] Derbyniodd radd 2:2 gradd gydanrhydedd Meistr Mewn Celf (yr Alban) mewn Economeg a'r Oesoedd Canol ym Mai 1978.[11][12]

Ymddiswyddiad fel Prif Weinidog golygu

Ar 19 Medi 2014, yn dilyn canlyniad Refferendwm yr Alban dros Annibyniaeth, lle gwelwyd mwyafrif o bobl yr Alban, o drwch blewyn, yn gwrthod annibyniaeth, cyhoeddodd Salmond y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn Nhachwedd.[13] Nicola Sturgeon oedd yr unig ymgeisydd am arweinyddiaeth yr SNP yn Perth ar 14 Tachwedd,[14][15] ac ymddiswyddodd yn ffurfiol ar y 18 Tachwedd, a dilynwyd ef unwaith eto gan Sturgeon; fe'i dewisiwyd y diwrnod wedyn - y 19fed o Dachwedd.[16][17]

Dychwelyd i San Steffan golygu

Ar 7 Rhagfyr 2014, cyhoeddodd Salmond y byddai’n sefyll fel ymgeisydd yr SNP ar gyfer etholaeth San Steffan Gordon yn etholiad Mai 2015.[18] Enillodd y sedd Gordon gyda 47.7% o’r bleidlais gan ddisodli  Democrat Rhyddfrydol Malcolm Bruce fel. Ar 13 Mai 2015, penodwyd Salmond yn llefarydd materion tramor yr SNP yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn etholiad cyffredinol y DU 2017, cafodd Salmond ei drechu gan Colin Clark o'r Ceidwadwyr

The Alex Salmond Show golygu

Ar 9 Tachwedd 2017, cyhoeddodd y sianel RT (a elwid gynt yn Russia Today) byddai Salmond yn cyflwyno rhaglen o'r enw The Alex Salmond Show ar y rhwydwaith. Darlledwyd y sioe gyntaf ar 16 Tachwedd 2017; y prif gyfwelai oedd Carles Puigdemont , cyn arlywydd Catalwnia.[19]

Cyhuddiadau o gam ymddwyn rhywiol golygu

Ym mis Awst 2018, ymddiswyddodd Salmond o’r SNP yn wyneb honiadau o gamymddwyn rhywiol yn 2013 tra roedd yn Brif Weinidog. Mewn datganiad dywedodd ei fod am osgoi rhaniad mewnol o fewn y blaid a’i fod yn bwriadu gwneud cais i ailymuno â’r SNP unwaith y byddai wedi cael cyfle i glirio ei enw.

Ar 24 Ionawr 2019, arestiodd Heddlu’r Alban Salmond, a chyhuddwyd ef o 14 trosedd, gan gynnwys dau gyhuddiad o geisio treisio, naw o ymosod yn rhywiol, dau o ymosod yn anweddus, ac un o dorri'r heddwch. Ymddangosodd yn y llys ar 21 Tachwedd a chofnodi ple o "ddieuog". Dechreuodd yr achos ar 9 Mawrth 2020; Gordon Jackson oedd yn arwain ei amddiffyniad , ac Alex Prentice oedd yn arwain yr erlyniad .

Ar 23 Mawrth 2020, cafodd Salmond ei glirio o'r holl gyhuddiadau. Cafwyd rheithgor yn ddieuog o 12 cyhuddiad, cafodd un cyhuddiad ei ollwng gan yr erlynyddion yn gynharach yn yr achos tra canfuwyd nad oedd un cyhuddiad wedi'i brofi.[20]

Plaid Alba golygu

Ar 26 Mawrth 2021, cyhoeddodd Salmond ei fod wedi ymuno â, ac wedi dod yn arweinydd ar Blaid Alba, plaid newydd o blaid annibyniaeth. Roedd gan y blaid ymgeiswyr yn sefyll yn Etholiad Senedd yr Alban 2021, ar y rhestr rhanbarthol yn unig. Ni enillodd y blaid unrhyw seddi.[21]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Allardyce, Jason (26 Gorffennaf 2009). "Salmond: 'Faith is my driving force'". Llundain: Sunday Times Scotland. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2009.
  2. "Alex Salmond". Desert Island Discs. 16 Ionawr 2011. BBC Radio 4. http://www.bbc.co.uk/programmes/b00xgs41. Adalwyd 18 Ionawr 2014.
  3. LibBrooks. "Alex Salmond's resignation could give Nicola Sturgeon her day of destiny". the Guardian. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2014.
  4. Black, Andrew (11 Ionawr 2012). "BBC News – A profile of SNP leader Alex Salmond". bbc.co.uk. Cyrchwyd 14 Ionawr 2012. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  5. David Torrance, Salmond: Against The Odds (Birlinn, 2010), tud. 12
  6. "Alex Salmond: The new king of Scotland". Llundain: The Independent. 10 August 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-01. Cyrchwyd 7 Ebrill 2010.
  7. Torrance, Salmond: Against The Odds, tud. 12
  8. St Ninian's Craigmailen Parish Council (PDF). 1975. t. 17. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-10-20. Cyrchwyd 17 Ionawr 2014.
  9. "General Assembly of the Church of Scotland". Scotland.gov.uk. 2011-05-23. Cyrchwyd 2014-01-17.
  10. Torrance, Salmond: Against The Odds, tud. 23
  11. 11.0 11.1 Torrance, Salmond: Against The Odds, tud. 29
  12. Alex Salmond MSP Archifwyd 2009-10-16 yn y Peiriant Wayback., Plaid Genedlaethol yr Alban, Adalwyd 7 Ebrill 2010.
  13. "Salmond to quit as First Minister". BBC News. Llundain: BBC. 19 Medi 2014. Cyrchwyd 19 Medi 2014.
  14. "SNP leadership elections close". SNP. SNP. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-17. Cyrchwyd 15 Hydref 2014.
  15. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-30011423
  16. BBC News - The transition from Alex Salmond to Nicola Sturgeon
  17. BBC News - Alex Salmond's last day as first minister
  18. "Ex-SNP leader Alex Salmond announces he is to stand for UK Parliament". BBC News. 2014-12-07. Cyrchwyd 2021-03-27.
  19. The Alex Salmond Show, Tasmina Ahmed-Sheikh, Peter Oborne, Lembit Öpik, George Kerevan, 2017-11-26, https://www.imdb.com/title/tt8126374/, adalwyd 2021-03-27
  20. "Alex Salmond wedi'i gael yn ddieuog o geisio treisio ac ymosodiadau rhyw". Golwg360. 2020-03-23. Cyrchwyd 2021-03-27.
  21. "Alex Salmond yn creu ei blaid wleidyddol ei hun ac yn sefyll yn etholiad yr Alban". Golwg360. 2021-03-26. Cyrchwyd 2021-03-27.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Albert McQuarrie
Aelod Seneddol dros Banff a Buchan
19872010
Olynydd:
Dr Eilidh Whiteford
Senedd yr Alban
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Senedd yr Alban dros Banff a Buchan
19992001
Olynydd:
Stewart Stevenson
Rhagflaenydd:
Nora Radcliffe
Aelod Senedd yr Alban dros Gordon
20072011
Olynydd:
diddymwyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Senedd yr Alban dros Gordon
20112016
Olynydd:
Gillian Martin
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Gordon Wilson
Arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban
19902000
Olynydd:
John Swinney
Rhagflaenydd:
John Swinney
Arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban
20042014
Olynydd:
Nicola Sturgeon
Rhagflaenydd:
Jack McConnell
Prif Weinidog yr Alban
20072014
Olynydd:
Nicola Sturgeon