Allen Raine

nofelydd o Gymru

Nofelydd poblogaidd o Gymraes oedd Anne Adaliza Beynon Puddicombe (née Evans), neu Allen Raine (6 Hydref, 1836 - 21 Mehefin, 1908).[1]

Allen Raine
FfugenwAllen Raine Edit this on Wikidata
GanwydAnne Adalisa Evans Edit this on Wikidata
6 Hydref 1836 Edit this on Wikidata
Castellnewydd Emlyn Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1908 Edit this on Wikidata
Bronmôr, Tresaith Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PerthnasauDavid Davies Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed yr awdur yn nhref Castell Newydd Emlyn yn 1836 yn ferch i Benjamin a Letitia Grace Evans. Roedd ei thad (yn ŵyr i David Davies o Gastellhywel neu Dafis Castellhywel fel yr adnabyddid ef) yn gyfreithiwr a'i mam yn wyres i'r Parch. Daniel Rowland. Buont yn byw yng Nglandŵr, Tresaith hyd at 1872.[2] Fe'i danfonwyd i fyw i Cheltenham a Wandsworth ac yna i Lundain gyda'i chwaer a dychwelodd i Gymru yn 1856. Yn 1872 symudodd Anne yn ôl i Lundain wedi iddi briodi'r banciwr (gyda Banc Smith Payne, Llundain) ac arlunydd[3] Beynon Puddicombe. Yno y cychwynodd ysgrifennu o dan y llysenw Allen Raine. Cyhoeddodd “A Welsh Singer” yn 1896, ar ôl iddi rannu’r wobr gyntaf am nofel o'r enw Ynysoer yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1894. Dychwelodd y ddau i Dresaith yn 1900 pan drawyd Beynon Puddicombe gyda salwch meddwl. Buont yn byw ym "Mronmôr", Tre-saith, Ceredigion, lle bu farw Beynon ym mis Mai 1906. Bu Anne farw ar 21 Mehefin 1908.

 
Bedd Anne ym mynwent Sant Mihangel, Penbryn, Ceredigion. Llun gan Iestyn Hughes.

Enillodd nofel gyntaf Raine, Ynysoer, gwobr am y nofel gorau yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 o dan ei henw barddol Arianwen. Roedd yn un o ddwy nofel a dyfarnwyd yn gydradd gyntaf, y llall oedd Robert Siôn, neu Fywyd Gwledig yng Nghymru, Gan Elis o'r Nant.[4] Cyhoeddwyd fersiwn Cymraeg Ynysoer fel nofel gyfres yn Y Genedl Gymraeg. [5]

Addaswyd tri o'i llyfrau ar gyfer ffilm: Torn Sails (1915), A Welsh Singer (1920) a By Berwen Banks (1920).

Roedd ganddi gysylltiadau â Sarah Jacobs y ferch a ymprydiodd o Llanfihangel ar Arth. Cafodd Anne ei chladdu ym mynwent eglwys plwyf Penbryn, ger Tre-saith, lle priododd; yn y pentref bychan lle treuliodd chwarter canrif olaf ei hoes.

Llyfryddiaeth golygu

  • Ynysoer (stori arobryn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon; 1894). Newidiwyd yr enw pan gyhoeddwyd y gwaith ar ffurf nofel yn 1909 i Where Billows Roll.
  • A Welsh Singer (1896)
  • Torn Sails (1897)
  • By Berwen Banks (1899)
  • Garthowen (1900)
  • A Welsh Witch (1902)
  • On the Wings of the Wind (1903)
  • Hearts of Wales (1905)
  • Queen of the Rushes (1906)
  • Neither Storehouse nor Barn (1908)
  • All in a Month (casgliad o straeon byr; 1908)
  • Under the Thatch (1910)

Ffilmiau golygu

Torn Sails (1915), A Welsh Singer (yn serennu Florence Turner 1920) a By Berwen Banks (1920).

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig
  2. Gwefan Saesneg yn ymwneud a'r tŷ[dolen marw]
  3. Enghraifft o waith Beynon.
  4. "Advertising - Y Werin". D. W. Davies & Co. 1894-07-28. Cyrchwyd 2019-05-19.
  5. "YNYSOER Ystori am Arfordir Cymru - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1894-08-21. Cyrchwyd 2019-05-19.

Dolenni allanol golygu