Mae gan rai elfennau yn eu ffurf bur fwy nag un ffurf posibl i'w hadeiledd cemegol. Gelwir y gwahanol ffurfiau hyn yn alotropau. Ffurf ar yr elfen bur yw alotrop yn hytrach na ffurf ar foleciwlau o ragor nag un elfen (a elwir yn isomer). Diffiniad elfen yw bod i bob atom o'r un elfen yr un nifer o brotonau. Mae'r term alotrop yn cynnwys moleciwlau o atomau o un elfen yn unig megis nwyon deuatomig. Ni ddylid cymysgu alotropau gyda ffurfiau ffisegol gwahanol megis nwy, hylif, solid. Un ffurf benodol o'r elfen yw'r ffurf sefydlog o dan unrhyw amodau (e.e. gwasgedd a thymheredd) penodol ond, os yw'r trawsnewidiad o un ffurf i'r llall yn digwydd yn araf gan fod ynni actifadu uchel i'r broses, gall sawl ffurf o elfen fodoli ar yr un pryd. Mae gan alotropau o'r un elfen briodweddau gwahanol gan fod y bondio cemegol rhwng yr atomau ynddynt wedi eu trefnu'n wahanol, e.e. cymharer priodweddau tra gwahanol diemwnt a graffit, dau alotrop o garbon, isod.

Alotrop
Delwedd:PhosphComby.jpg, Diamond and graphite.jpg
Mathnodwedd Edit this on Wikidata
Rhan ocemeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Esiampl o alotropaeth: Diamwnt a graffit sy'n ddau alotrop o garbob. Mae'r ddau'n ffurfiau pur o'r un elfen ond fod ganddynt o ran eu strwythur crisialaidd.

Esiamplau nodweddiadol o alotropaeth golygu

Ocsigen golygu

Mae ocsigen yn bodoli ar ddwy ffurf gyffredin, hynny yw, dau alotrop. Mae rhan helaeth yr ocsigen yn yr atmosffer yn bodoli ar ffurf nwy deuatomig di-liw, O2. Bodola hefyd alotrop arall a elwir yn oson, sef ocsigen triatomig O3 sydd yn nwy glas golau neu'n hylif glas cyfoethog. Mae oson yn ffurfio o'r ocsigen deuatomig o dan amodau ynni uchel, naill ai ynni trydanol neu ynni electromagnetig uwchfioled. Mae oson yn ymgasglu fel haen oson o amgylch y ddaear lle mae'n cael ei ffurfio a'i ddadelfennu gan ymbelydredd uwchfioled o ynni uchel, a thrwy hyn yn hidlo'r ymbelydredd hwn rhag iddo i gyd gyrraedd wyneb y ddaear.

Carbon golygu

Mae gan carbon ddwy ffurf arferol, sef diemwnt a graffit, ill dwy yn solidau. Mae graffit yn ffurf sefydlog a diemwnt yn ffurfio o dan wasgedd uchel iawn ynghyd â gwres. Mae ganddynt briodweddau a gwerthoedd gwahanol iawn i'w gilydd. Mae gan ddiemwnt adeiledd cemegol ar ffurf dellten detrahedrol. Mae natur crisial cryf iddo, mae trawsyriannedd uchel ganddo ac mae'n galed iawn ar raddfa facrosgobig. Mae gan graffit adeiledd cemegol ar ffurf haenau gwastad llydan o gylchoedd hecsagonal o garbon a'r adeiledd hwnnw'n gyfunedig (sef rhwymynnau cyfalent sengl a dwbl am yn ail). Dim ond gafael llac sydd gan un haen ar haen arall a gallant lithro'n rhwydd heibio i'w gilydd. Oherwydd hyn mae graffit yn lled-ddargludydd, prin fod iddo drawsyriannedd o gwbl, ac mae'n feddal iawn. Defnyddir graffit yn aml fel iraid.

Yn ddiweddar, canfuwyd alotropau eraill o garbon sydd ag adeiledd cemegol o foleciwlau sfferig. Gelwir aelodau o'r teulu hwn yn ffwlerenau. Mae pob moleciwl o'r ffwleren mwyaf cyfarwydd, sef ffwleren Buckminster, yn cynnwys 60 atom o garbon.

Ffosfforws golygu

Mae gan ffosfforws dri alotrop: gwyn (solid crisialog), coch (solid polymerig), a du (lled-ddargludydd, cydweddol â graffit). Y ffurfiau coch a gwyn yw'r rhai mwyaf cyfarwydd, a'r ddwy wedi eu hadeiladu o ddellt o detrahedra P4. Yn yr alotrop gwyn mae pob tetrahedra yn cadw ar wahân. Yn yr alotrop coch ffurfia'r tetrahedra gadwynau. Mae ffosfforws gwyn yn cynnau mewn aer, felly cedwir yr elfen o dan ddŵr. Nid yw'r alotropau eraill mor adweithiol â'r un gwyn.