American Pie 2

ffilm comedi rhamantaidd am arddegwyr gan J. B. Rogers a gyhoeddwyd yn 2001

Ffilm gomedi Americanaidd sy'n ddilyniant i'r ffilm American Pie yw American Pie 2. Cafodd ei ysgrifennu gan Adam Herz a David H. Steinberg, a'i chyfarwyddo gan James B. Rogers. Adrodda'r ffilm hanes y pedwar ffrind ifanc o'r ffilm gyntaf, wrth iddynt gyfarfod ar ôl eu blwyddyn gyntaf yn y coleg. Rhyddhawyd y ffilm yn yr Unol Daleithiau ar 10 Awst, 2001 a gwnaeth dros $145 miliwn yn yr Unol Daleithiau a $142 miliwn yn rhyngwladol. Cyllid y ffilm oedd $30 million. Y ffilm nesaf yn y gyfres oedd American Wedding.

American Pie 2

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr James B. Rogers
Cynhyrchydd Chris Moore
Warren Zide
Ysgrifennwr Adam Herz
David H. Steinberg
Serennu Jason Biggs
Shannon Elizabeth
Seann William Scott
Alyson Hannigan
Eugene Levy
Tara Reid
Natasha Lyonne
Jennifer Coolidge
Eddie Kaye Thomas
Chris Klein
Thomas Ian Nicholas
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Universal Studios
Amser rhedeg 110 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Cast golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.