Newyddiadurwraig Americanaidd ac awdures yw Amy Goodman (ganwyd 13 Ebrill 1957). Hi yw gwesteiwraig Democracy Now!, rhaglen newyddion byd-eang annibynnol a ddarlledir yn ddyddiol ar y radio, y teledu a'r rhyngrwyd.

Amy Goodman
Ganwyd13 Ebrill 1957 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Radcliffe
  • Bay Shore High School
  • Coleg yr Iwerydd, UDA Edit this on Wikidata
Galwedigaethcolofnydd, cynhyrchydd radio, investigative journalist, ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDemocracy Now!, Access of Evil, The Exception to the Rulers, Static: Government Liars, Media Cheerleaders, and the People who Fight Back, Standing up to the Madness: Ordinary Heroes in Extraordinary Times, Breaking the Sound Barrier, The Silenced Majority: Stories of Uprisings, Occupations, Resistance, and Hope, One Bright Shining Moment: The Forgotten Summer of George McGovern, Democracy Now!: Twenty Years Covering the Movements Changing America Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Orwell, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr George Polk, Dyneiddiwr y Flwyddyn, Gwobr EFF, Gwobr Thomas Merton, Gwobr Hall of Fame I. F. Stone, Joe A. Callaway Award for Civic Courage Edit this on Wikidata

Ganwyd Goodman yn Bay Shore (Efrog Newydd)[1] ar 13 Ebrill 1957 i George, offthalmolegydd, a Dorothy (gynt Bock) Goodman.[2] Magwyd mewn cartref Iddewig, ac roedd ei thaid o ochr ei mam yn Rabbi Uniongred.[3] Graddiodd o Bay Shore High School yn 1975, ac o Radcliffe College yn 1984 gyda gradd mewn anthropoleg.[4] Treuliodd Goodman flwyddyn yn y College of the Atlantic yn Bar Harbor (Maine).[5]

Democracy Now! golygu

Roedd Goodman wedi bod yn gyfarwyddwraig (director) gorsaf Pacifica Radio WBAI yn Ninas Efrog Newydd am fwy na degawd pan gyd-sefydlodd Democracy Now! The War and Peace Report yn 1996.

Yn 2001, tynnwyd y rhaglen oddi ar yr awyr, oherwydd croesdynnu rhwng grŵp o aelodau bwrdd Pacifica Radio ac aelodau staff a gwrandawyr. Yn ystod yr adeg honno, symudwyd Democracy Now! i orsaf dân, o ble y darlledodd hyd at y 13 Tachwedd 2009.[6] Lleolir stiwdio newydd y rhaglen yng ymyl Chelsea ym Manhattan.[7]

Mae Goodman yn credydu (credit) llwyddiant Democracy Now! i sefydliadau'r cyfryngau prif ffrwd sy'n gadael "bwlch anferth"[8] i'r rhaglen.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. Peace Correspondent: 'Democracy Now!' Host Amy Goodman Is Making Her Voice Heard on Iraq Archifwyd 2008-09-14 yn y Peiriant Wayback. gan Michael Powell, Washington Post, 10 Mawrth 2003
  2. "Dorothy Goodman Obituary". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-08. Cyrchwyd 2012-09-23.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-12. Cyrchwyd 2012-09-23.
  4. Lamb, Brian (6 Gorffennaf 2004). "The Exception to the Rulers". Booknotes. C-SPAn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-21. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2011.
  5. "Amy Goodman To Speak At COA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-14. Cyrchwyd 2012-09-23.
  6. Block, Jennifer. "A Dose of Democracy, Now: WBAI Listeners Get Their Station Back". Village Voice.
  7. Andy Worthington Archive for November, 2009
  8. "a huge niche"
  9. Ratner, Lizzy (23 Mai 2005). "Amy Goodman's 'Empire'". The Nation. http://www.thenation.com/doc/20050523/ratner.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am newyddiaduraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.