Tref yn ne-orllewin Iwerddon yw An Daingean neu Daingean Uí Chúis[1] (Saesneg: Dingle), yn Swydd Ciarraí (Kerry). Mae e'n 50 cilometr i'r gorllewin o Trá Lí/Tralee, ar lan y môr. Mae 1,828 o bobl yn byw yn ardal An Daingean (2002).

An Daingean
Mathanheddiad dynol, Gaeltacht Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iTolfa, Santa Barbara Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDingle Peninsula Edit this on Wikidata
SirSwydd Kerry Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd3.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.139915°N 10.27153°W Edit this on Wikidata
Map
Stryd John, An Daingean

Iaith An Daingean golygu

Er bod An Daingen wedi'i lleoli yn y Gaeltacht, Saesneg yw prif iaith y dref erbyn hyn.

Ymrafael Enw An Daingean golygu

Yn 2005, Cyhoeddodd Éamon Ó Cuív, Gweinidog materion y Gaeltacht, na ddefnyddid enwau Saesneeg yn swyddogol yn y Gaeltacht o hynny ymlaen. Stopiwyd, felly, ddefnyddio'r enw Saesneg 'Dingle'. Yn achos An Daingean roedd hwn yn benderfyniad dadleuol iawn, a bu cryn wrthwynebiad iddo, gan gynnwys fandaleiddio arwyddion ffyrdd uniaith Wyddeleg drwy baentio'r enw Saesneg 'Dingle' arnynt. Ymatebodd y Gweinidog drwy awgrymu y gellir adfer yr enw Saesneg drwy ddileu statws Gaeltacht An Daingean - rhywbeth fyddai'n golygu colli grantiau a chymorth canolog a roddir i gynnal yr ardaloedd Gwyddeleg. Penderfynodd Cyngor Swydd Ciaraí drefnu refferendwm ar y cwestiwn a phleidleisodd mwyafrif llethol yr etholwyr o blaid adfer yr enw Saesneg a Gwyddeleg fel enwau Swyddogol. Cyfyngwyd yr etholiad i etholwyr oedd yn byw yn y dref ei hun ac nid i bobl oedd yn byw yn yr ardal gyfagos, lle mae canran uchel o siaradwyr Gwyddeleg. Arweiniodd hyn at gyhuddiadau fod y bleidlais wedi'i threfnu i sicrhau mwyafrif o blaid yr enw Saesneg. Mae'r gweinidog Ó Cuív wedi dweud y byddai'n fodlon rhoi ystyriaeth i newid yr enw os yw'n gallu gwneud hynny o dan y Gyfraith ac os bydd y Cyngor Swydd yn gofyn am hynny.

Ymrafael Ysgol An Daingean golygu

Yn 2007 cyfunwyd dwy ysgol, Dingle CBS a Meanscoil na Toirbhithe, i ffurfio un ysgol newydd, Pobailscoil Chorca Dhuibhne. Saesneg oedd iaith ysgol Dingle CBS ond ysgol gyfrwng Gwyddeleg yw'r ysgol newydd. Mae hyn wedi arwain at brotestiadau gan ddisgyblion nad ydynt yn fodlon ar gael eu gwersi yn yr Wyddeleg gan ddweud nad ydynt nac yn ei siarad nac yn ei deall. Pwrpas dysgu trwy gyfrwng yr Wyddeleg yw sicrhau na fydd yr Wyddeleg yn dirywio yn y Gaeltacht.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022