An Inconvenient Truth

ffilm ddogfen gan Davis Guggenheim a gyhoeddwyd yn 2006

Mae An Inconvenient Truth (2006) yn ffilm dogfennol am gynhesu byd-eang a gyfarwyddwyd gan Davis Guggenheim, ac a gyflwynwyd gan cyn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Al Gore. Bu noson agoriadol y ffilm yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance ac agorodd yn Efrog Newydd a Los Angeles ar y 24 Mai 2006. Rhyddhawyd y ffilm ar DVD gan Paramount Home Entertainment ar y 21 Tachwedd 2006. Cyrhaeddodd llyfr gan Gore o'r enw "An Inconvenient Truth: The Planetary Emergency of Global Warming and What We Can Do About It", a oedd yn cyd-fynd â'r ffilm #1 ar restr y New York Times o werthwyr gorau ar yr 2il o Orffennaf, 2006. Enillodd y ffilm ddogfen Wobr yr Academi am y Ffilm Ddogfennol Orau a'r Gân Wreiddiol Orau.

An Inconvenient Truth

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Davis Guggenheim
Cynhyrchydd Lawrence Bender
Scott Z. Burns
Laurie David
Lesley Chilcott (cyd-gynhyrchydd)
Ysgrifennwr Al Gore
Serennu Al Gore
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Paramount Classics
Dyddiad rhyddhau 24 Mai, 2006
Amser rhedeg 94 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Gwnaeth y ffilm $49 miliwn yn y swyddfa docynnau yn fyd-eang, gan wneud An Inconvenient Truth y pedwerydd ffilm ddogfen mwyaf llwyddiannus o safbwynt masnachol yn yr Unol Daleithiau, ar ôl Fahrenheit 9/11, March of the Penguins, a Sicko.


Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ddogfen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.