Anahita yw Duwies y Dyfroedd Pur ym mytholeg Persia. Ei henw llawn oedd Ardvi Sura Anahita. Yn ôl rhai traddodiadau mae hi'n ferch i'r duw Ahura Mazda ond credir ei bod yn ffurf ar y Fam Dduwies yn wreiddiol.

Anahita
Enghraifft o'r canlynolduw dŵr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cerflun yn Naqsh i Rustam, Iran, yn dangos Anahita (de) yn rhoi modrwy yn cynrhychioli awdurdod i'r brenin Narses (diwedd y 3edd ganrif OC)

Ffynhonnell bywyd a ffrwythlondeb yw Anahita. Mae dyfroedd y byd yn tarddu ohoni ac yn puro a ffrwythloni popeth. Yn y nefoedd mae môr y bydysawd yn llifo ohoni. Mae hi'n dal a gosgeiddig, hardd iawn a disglair. Mae hi'n gwisgo coron aur gyda wyth pelydr a chant o sêr arni, mantell euraidd a gwddfdorch aur.

Yn ôl yr hanesydd Groeg Berossus cododd Artaxerxes Mnemon demlau i'r dduwies yn Ecbatana, Sardis, Susa, Babilon a Damascus. Roedd hi'n cael ei haddoli yn Asia Leiaf yn ogystal. Mae Strabo yn cofnodi temlau iddi yno lle arferid puteiniaeth sanctaidd gan ferched cyn eu priodi (nid oes tystiolaeth bendant am hyn ym Mhersia ei hun - mae testunau fel y Zend Avesta yn comdemnio'r arfer ond mae hynny'n awgrymu ei bod yn digwydd ar un adeg). Yn yr Armenia hynafol roedd hi'n 'Fywyd a Gogoniant Armenia, Rhoddwr Bywyd, Mam pob Doethineb'.

Fel yn achos Ahura Mazda, cafodd Anahita le yn Zoroastriaeth, yn arbennig ar lefel poblogaidd.

Darllen pellach golygu

  • John R. Hinnells, Persian Mythology (Llundain, 1973)