Andy John

Archesgob Cymru
(Ailgyfeiriad o Andrew John)

Archesgob Cymru yw'r Hybarch Andrew Thomas Griffith John (neu 'Andy John'[1]; ganed 9 Ionawr 1964).[2] Daeth yn Esgob Bangor yn 2008 cyn cael ei ethol yn Archesgob yn 2021.

Andy John
Ganwyd9 Ionawr 1964 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddArchesgob Cymru, Esgob Bangor Edit this on Wikidata

Yn 2023 cyhoeddodd y byddai Cymru'n well well pe bai'n wlad annibynnol, yn rhydd oddi wrth Lloegr.

Magwyd Andrew Thomas Griffith John yn Aberystwyth. Astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna yn Ngholeg Sant Ioan, Nottingham. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1989 ac yn offeiriad yn 1990.[1]

Yr Eglwys yng Nghymru golygu

Cychwynnodd John hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, Caerdydd ac fe’i hordeiniwyd yn 1994.

Bu John yn Archddiacon Ceredigion ac yn swyddog eciwmenaidd o fewn Esgobaeth Tyddewi. Bu'n ficer tîm yn Aberystwyth o 1992 hyd 1999, yna'n ficer Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth hyd 2006, pan ddaeth yn ficer Pencarreg a Llanycrwys ac yn Archddiacon Aberteifi. Etholwyd i'w swydd fel yr 81ain Esgob Bangor ar 9 Hydref 2008.

Yn 58 oed yn Rhagfyr 2021, fe'i penodwyd yn Archesgob Cymru, yn dilyn yr Archesgob John Davies. Ef yw'r 14ydd Archesgob.

Annibyniaeth golygu

Ar y rhaglen Y Byd y ei Le ar S4C dywedodd mai ei farn bersonol oedd ei fod yn deall y galwadau am annibyniaeth i Gymru, ac nad oedd Westminster yn ddigonol i Gymru. Nododd mai'r "dull gorau i ddatrus problemau Cymru yw annibyniaeth."[3] Mewn cyfweliad yn y Spectator yn Ebrill 2023, dywedodd fod San Steffan yn annigonol ac mai'r unig ddull i ateb problemau Cymru yw trwy annibyniaeth.[4]

Personol golygu

Dywedodd wrth Golwg360 iddo, yn ei ieuenctid, chwarae’r gitâr mewn band roc, a bod ganddo datŵ ar ei gefn.[5]

Bu'n briod ac mae ganddo ddwy ferch a nifer o wyrion. Yn 2023, fe'i hurddwyd i'r Orsedd gyda Gwisg Las.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 www.churchinwales.org.uk; adalwyd 31 Ionawr 2023.
  2. "Ethol Esgob newydd i Fangor" (yn Saesneg). 2008-10-09. Cyrchwyd 2024-04-01.
  3. nation.cymru; adalwyd 31 Ionawr 2023.
  4. www.spectator.co.uk; adalwyd 10 Ebrill 2023.
  5. golwg.360.cymru; angen tanysgrifiad; adalwyd 31 Ionawr 2023.
  6. "Anrhydeddau'r Orsedd 2023: Y gogledd". BBC Cymru Fyw. 2023-05-22. Cyrchwyd 2024-04-01.