Chwaraewr tenis Albanaidd[3] sy'n cynrychioli'r Alban[1] a Phrydain Fawr[4] yw Andrew "Andy" Murray (ganwyd 15 Mai 1987 yng Nglasgow). Mae'n enwog am ei echwythiadau angerddol aml a'i dalent naturiol.

Andy Murray
Andy Murray
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban [1]
Cartref Llundain
Dyddiad Geni 15 Mai 1987(1987-05-15)
Lleoliad Geni Glasgow,[2] Yr Alban
Taldra 1.90 m
Pwysau 84 kg
Aeth yn broffesiynol 2005
Ffurf chwarae Dde; Gwrthlaw ddeulaw
Arian Gwobr Gyrfa $UD 7,962,968
Senglau
Record Gyrfa: 200-72
Teitlau Gyrfa: 12
Safle uchaf: 3 (11 Mai 2009)
Canlyniadau'r Gamp Lawn
Agored Awstralia 4ydd Rownd (2007, 2009)
Agored Ffrainc cyn-cynderfynol (2009)
Wimbledon cynderfynol (2009)
Agored yr UD terfynol (2008)
Parau
Record Gyrfa: 23-36
Teitlau Gyrfa: 0
Safle uchaf: 89 (2 Ebrill 2007)

Gwybodlen wedi'i diweddaru diwethaf ar: 9 Gorffennaf 2009.

Mae'n 190 cm o daldra, ac mae'n defnyddio trawiad gwrthlaw deulaw eithriadol. Ei hyfforddwr cyfredol yw Brad Gilbert. Mae Murray hefyd yn ffrindiau da efo'i gyd-chwaraewr tenis Novak Đoković.

Enillodd y fedal aur yn nhwrnamaint senglau dynion yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 ac yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil. Enillodd ef Bencampwriaeth yr Unol Daleithiau yn 2012.

Cafodd ei enwebu'n chwaraewr y flwyddyn yng ngwobrau'r Lawn Tennis Association yn 2005.[5] Yn 2015 Murray oedd chwaraewr dethol gorau'r DU ac roedd yn ail orau drwy'r byd. Yn Rhagfyr 2005 enillodd Wobr Personoliaeth Chwaraeon Albanaidd y Flwyddyn BBC Scotland, ac adran chwaraeon y gwobrau Top Scot. Ystyriwyd ei frawd hŷn Jamie yn chwaraewr parau dethol gorau'r DU yn 2015. Roedd Murray gyda'i frawd Jamie'n aelodau o'r tîm a enillodd y Cwpan Davis yn 2015.

Ychydig cyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 cynhoeddodd ei fod am bleidleisio o blaid annibyniaeth.[6]

Gyrfa golygu

2008 golygu

Yng Ngemau Olympaidd Beijing fe gollodd Murray yn rownd gyntaf y gystadleuaeth senglau dynion i Lu Yen-Hsun, a chollodd gyda'i frawd Jamie yn ail rownd y dyblau i'r Ffrancod Michael Llodra ac Arnaud Clement.[7][8]

2009 golygu

Ym misoedd cynnar 2009 fe dynodd Murray allan o Bencampwriaeth Agored Dubai ac yna allan o dîm Prydain yng Nghwpan Davis rhwng 6–8 Mawrth oherwydd firws.[9]

Ym Mai cyrhaeddodd Murray rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc am y tro cyntaf wrth guro Marian Cilic o Groatia 7-5, 7-6 (7-4), 6-1, gyda Cilic yn gwynno yn y drydedd set gydag anaf i'w goes. Daeth Murray yn y trydydd dyn yn unig o Brydain, ar ôl Tim Henman a Roger Taylor, i gyrraedd y rowng gogynderfynol yn Roland Garros.[10] Curwyd gan Fernando Gonzalez o Tsile yn rownd nesaf y bencampwriaeth 6-3, 3-6, 6-0, 6-4.[11]

Ym Mehefin enillodd Murray ei dlws cyntaf ar gwrt gwair gan guro'r Americanwr James Blake 7-5, 6-4 yn rownd derfynol Pencampwriaeth Aegon yn Queen's, a daeth yn y dyn cyntaf o Brydain i ennill y bencampwriaeth ers Henry "Bunny" Austin ym 1938.[12]

2013 - golygu

Roedd Murray yn drydydd detholyn ar gyfer Pencampwriaeth Wimbledon 2009,[13] a daeth yn yr ail ddetholyn pan gadarnhaodd Rafael Nadal nad oedd am chwarae yn y gystadleuaeth.[14] Enillodd Murray y Pencampwriaeth Wimbledon yn 2013 a 2016..[15]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Murray out to please Scots crowd. BBC Sport (25 Tachwedd, 2005). Adalwyd ar 10 Mehefin, 2007.
  2. (Saesneg) Biography. andymurray.com. ""I was born in Glasgow on the 15th May 1987""
  3. (Saesneg) Louise Gray (1 Rhagfyr, 2005). Rankin the toast of Scotland as fans sing his praises. The Scotsman. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2007.
  4. (Saesneg) Mark Hodgkinson (22 Gorffennaf, 2006). Bogdanovic frame of mind is key to British success. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 10 Mehefin, 2007.
  5.  Murray yw chwaraewr y flwyddyn. BBC Chwaraeon (8 Rhagfyr, 2005). Adalwyd ar 10 Mehefin, 2007.
  6. Papur newydd y Guardian; adalwyd 22 Rhagfyr 2015
  7.  Beijing: Dydd 3. BBC Chwaraeon (12 Awst, 2008). Adalwyd ar 25 Awst, 2009.
  8.  Beijing: Dydd 5. BBC Chwaraeon (13 Awst, 2008). Adalwyd ar 25 Awst, 2009.
  9.  Murray yn tynnu allan o dîm GB. BBC Chwaraeon (2 Mawrth, 2009). Adalwyd ar 6 Medi, 2009.
  10.  Paris: Murray yn torri tir newydd. BBC Chwaraeon (31 Mai, 2009). Adalwyd ar 25 Awst, 2009.
  11.  Breuddwyd Murray ar ben ym Mharis. BBC Chwaraeon (2 Mehefin, 2009). Adalwyd ar 25 Awst, 2009.
  12.  Murray yn cipio tlws Queen's. BBC Chwaraeon (14 Mehefin, 2009). Adalwyd ar 25 Awst, 2009.
  13.  Murray yn drydydd detholyn. BBC Chwaraeon (17 Mehefin, 2009). Adalwyd ar 25 Awst, 2009.
  14.  Murray i herio Kendrick yn SW19. BBC Chwaraeon (19 Mehefin, 2009). Adalwyd ar 25 Awst, 2009.
  15. Newbery, Piers. "Andy Murray wins Wimbledon by beating Milos Raonic". BBC Sport. Cyrchwyd 17 July 2016.

Dolenni allanol golygu