Anweledig

Band o Flaenau Ffestiniog

Band o Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru oedd Anweledig, roeddynt yn chwarae amrediad o arddulliau Ffync, Reggae, Ska a Roc. Aelodau'r band oedd: Ceri Cunnington (prif lais), Gai Toms (gitâr,cyfansoddi, llais), Iwan 'Oz' Jones (gitâr flaen), Rhys Roberts (gitâr fâs), Alwyn Evans (drymiau) a Joe Buckley (allweddellau) ynghyd ag adran chwyth, 'Y Tri Tôn'.

Anweledig
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Label recordioCwmni Recordiau Sain Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1991 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBari Gwilliam, Gai Toms Edit this on Wikidata

Daeth Anweledig i'r amlwg yn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg yn 1998, wrth ryddhau eu halbwm gyntaf, Sombreros yn y Glaw ar label Crai. Wedi ffurfio yn 1991, dros amser cawsant gigiau â'r Super Furry Animals, Ffa Coffi Pawb, Geraint Jarman ac eraill. I gyd-fynd a'u halbwm cyntaf, recordiwyd fideo ar gyfer sioe S4C, i-Dot, o'r gân 'Fan Hyn'.

Yn 1999, rhyddhawyd EP Cae yn Nefyn, eto ar label Crai. Yn arwydd o'u llwyddiant ar y pryd, roeddent yn brif fand yn Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn y blynyddoedd canlynol, rhyddhawyd nifer o CDs gan y band sef Scratchy (Sengl, 2000), Gweld y Llun (Albwm, 2001) a Low Alpine (Sengl, 2001). Gwnaeth hyn Anweledig yn adnabyddus dros Gymru, gyda'u sain unigryw yn gymysgedd o lawer o ddylanwadau. Yn 2002, aethant ar daith drwy Lydaw, cyn cymryd toriad er mwyn canolbwyntio ar brosiectau eraill megis Mim Twm Llai (Gai Toms) a Vates (Oz). Yn 2004, ailffurfiodd y band gan ail-ddechrau gigio a rhyddhau'r EP Byw. Yn y cyfamser, ymunodd Rhys Roberts i chwarae'r gitâr fâs i'r band roc Sibrydion.

Ar ôl cyfnod tawel arall, ailffurfiodd Anweledig am gig fawreddog yn Nhân y Ddraig yn Awst 2006, â'r Proclaimers yn eu cefnogi.

Chwaraeodd Anweledig eu gig olaf yng Ngwesty'r Queens, Blaenau Ffestiniog y dydd ar ôl Ŵyl San Steffan 2008, bron union 16 mlynedd ers cychwyn y band.

Discograffiaeth golygu

Dolenni golygu

Chwiliwch am Anweledig
yn Wiciadur.