Aonach Beag (1234 m)

Mae Aonach Beag yn gopa mynydd a geir ym mynyddoedd y Grampians, yng ngogledd-orllewin Ucheldir yr Alban; cyfeiriad grid NN197715. Ceir carnedd ar y copa. Saif y mynydd tua 3 km i'r dwyrain o'r fam fynydd, sef Ben Nevis.

Aonach Beag
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Uwch y môr1,234 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.799998°N 4.954121°W Edit this on Wikidata
Cod OSNN1971071493 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd404 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaBen Nevis Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynyddoedd y Grampians Edit this on Wikidata
Map

Mae'r enwau'n gamarweiniol: "beag" ydy "bach" a "Mòr" ydy mawr. Ond mae copa Aonach Beag yn uwch na chopa Aonach Mòr! Gelir cyfiawnhau'r enwau gan fod Aonach Beag yn llai o fynydd o ran mas, ond nid uchder.

Y daith hawddaf i'r copa ydy drwy fynd ar lifft-sgio Aonach Mòr, ac ymlaen i'r mynydd hwn, neu drwy gerdded o Glen Nevis.

Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 15 Ionawr 2003.

Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu