Mynyddoedd yn yr Eidal yw'r Apenninau (Eidaleg: Appennini; Lladin: Appenninus, Groeg: Απεννινος). Maent yn ymestyn ar hyd gorynys yr Eidal, o'r gogledd i'r de, am 1000 km, yn weddol agos i'r arfordir dwyreiniol. Carreg galch ydynt gan mwyaf yn ddaearegol.

Apenninau
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolllain Alpid Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Uwch y môr2,912 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.28167°N 12.58194°E Edit this on Wikidata
Hyd1,200 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Fe'i rhennir fel rheol yn Apenninau Gogleddol, Apenninau Canolog ac Apenninau Deheuol. Ceir y copa uchaf yn yr Apenninau Canolog, y Gran Sasso d'Italia (2,912 m). Ceir rhywfaint o fforestydd ar eu llethrau, er bod y rhain yn llai nag yn y cyfnod clasurol.

Yr Apenninau yn Emilia (Pietra di Bismantova)