Apollo 10 oedd y bedwaredd daith i ddyn yn y rhaglen Apollo Americanaidd. Paratoi'r tir ar gyfer taith Apollo 11 oedd ei bwrpas mewn gwirionedd, gan brofi gweithdrefnau a chynlluniau glanio ar y lleuad, a hynny heb lanio. Dyma'r ail griw o ofodwyr i gylchdroi'r lleuad mewn roced a daeth o fewn i 8.4 milltir (15.6 km) o wyneb y lleuad fel rhan o'r ymarfer.

Apollo 10
Enghraifft o'r canlynoltaith ofod gyda phobol Edit this on Wikidata
Màs44,576 cilogram, 4,945 cilogram Edit this on Wikidata
Rhan oRhaglen Apollo Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganApollo 9 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganApollo 11 Edit this on Wikidata
GweithredwrNASA Edit this on Wikidata
Hyd691,403 eiliad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Apollo 10 ar ei daith allan o'r Gweithle Adeiladu 39B.

Yn ôl rhifyn 2001 o lyfr Guinness World Records, gan Apollo 10 mae'r record am gyflymder uchaf unrhyw gerbyd gofod gyda dyn arno, sef cyflymder o 39,897 km/awr (11.08 km/eiliad neu 24,791 mpya) ar ei daith yn ôl o'r lleuad ar 26 Mai 1969.

Gweler hefyd golygu